Gwrthdrawiad difrifol: Dynes wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 21 oed gafodd anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Abertawe nos Iau wedi marw yn yr ysbyty yng Nghaerdydd.
Mae Heddlu'r De'n apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad yn ardal datblygiad SA1.
Fe gafodd swyddogion eu galw yno tua 22:24.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu Ffordd Langdon, fe welon nhw bod car Honda Civic du wedi bod mewn gwrthdrawiad â cheir oedd wedi parcio yno.
Roedd y ddynes fu farw yn teithio yn y car hwnnw.
Mae gyrrwr yr Honda Civic - dyn 21 oed - wedi ei arestio ac mae'n rhoi cymorth i'r heddlu gyda'u hymchwiliad.
Fe gafodd dau berson mewn car arall eu hanafu, hefyd - mae'r ddau yn yr ysbyty.
Nawr, mae heddlu'n apelio ar unrhywun oedd yn yr ardal, neu a welodd y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw.
Yn ogystal, hoffai swyddogion siarad ag unrhywun welodd yr Honda Civic yn ardal y marina neu SA1 nos Iau.
Gall unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.