Gwrthdrawiad Ceredigion: dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr beic modur wedi marw wedi iddo wrthdaro gyda thrỳc oedd yn tynnu cwch yng Ngheredigion.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r B4548 yng Ngwbert ger Aberteifi am 1.19yh b'nawn Sadwrn.
Mae teithiwr arall yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae'r heddlu yn gofyn i lygad dystion gysylltu.