Datblygiad i driniaeth lewcemia
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud eu bod wedi cymryd cam sylweddol yn nhriniaeth y ffurf mwyaf cyffredin o lewcemia.
Mae Lewcemia Lymphocytic Cronig (CLL) yn effeithio ar 3,000 o bobl yng Nghymru ac 20,000 drwy'r Deyrnas Unedig i gyd.
Mae gwyddonwyr wedi datblygu cyffur newydd sy'n targedu celloedd canser, gan eu hatal cyn iddyn nhw gael cyfle i luosi a theithio drwy'r corff.
Dywed gwyddonwyr y byddai'r clefyd yn lleihau fel problem glinigol.
Mae tîm yr uned Canser a Genynnau yn Ysbyty'r Brifysgol wedi bod yn gweithio ar y prosiect dan arweiniad yr Athro Chris Pepper, sydd wedi bod yn gweithio ar y clefyd am 20 mlynedd.
"Fe fydd y cyffuriau hyn yn trawsnewid rhagolygon cleifion, heb os", meddai.
"Dwi'n hyderus yn rhagweld y bydd y clefyd, o fewn 10 mlynedd yn sicr, mwy na thebyg o fewn pum mlynedd, yn datblygu'n llai o broblem glinigol. "
"Fydd pobl fel fi ddim yn gweithio ar y clefyd rhagor. Fe fydd y cyffuriau hyn yn debygol o newid llwybr clinigol y clefyd."
Roedd ymchwil y tîm yn canolbwyntio ar dair prif elfen CLL:
Celloedd Canser
Mae profion clinigol eisoes yn cael eu cynnal ar y cyffuriau ac mae disgwyl iddyn nhw gael trwydded i'w defnyddio yma yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn.
Mae'r cyffur yn targedu celloedd canser, gan eu hatal cyn iddyn nhw gael cyfle i luosi a theithio drwy'r corff.
Pan mae celloedd CLL yn symud o amgylch y llif gwaed, mae rhai ohonyn nhw'n gwthio'u ffordd drwy wal y gwaedlestri ac yn dianc i feinweoedd y corff, gan lynu eu hunain at y pibelli lymff neu fêr-asgwrn y corff.
Dyna pryd mae'r celloedd canser yn lluosi ac yn datblygu'n broblem glinigol.
Mae ymchwil y Brifysgol wedi casglu bod un moleciwl penodol yn y corff - NF KappaB - yn chwarae rhan hanfodol wrth benderfynu ydi'r gell yn dianc o'r gwaedlestr neu ddim.
Mae'r cyffur Ibrutinib yn targedu'r moleciwl yma ac yn rhyddhau'r celloedd oddi wrth feinweoedd y corff ac yn eu cadw i symud o gwmpas llif gwaed y corff.
Yn ôl yr Athro Pepper: "Dwi ddim yn awgrymu ein bod yn mynd i iachau'r clefyd neu gael gwared â lewcemia'n llwyr, ond fe fydd y cyffuriau hyn yn atal symudiad y clefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011