Coleman ddim yn diystyru dewis Ched Evans

  • Cyhoeddwyd
Ched Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Evans yn y carchar ar hyn o bryd

Nid yw rheolwr y tîm cenedlaethol Chris Coleman wedi diystyru'r posibiliad o ddewis Ched Evans i chwarae dros Gymru yn y dyfodol.

Cafodd Evans, 25 oed, ei garcharu yn 2012 am dreisio merch 19 mlwydd oed. Mae disgwyl iddo gael ei ryddhau fis Hydref.

Mae Evans wedi chwarae i Gymru 13 o weithiau fel ymosodwr ac mae llawer o ddyfalu wedi bod ynglŷn ag a oes siawns y bydd yn cael ei ddewis i gynrychioli ei wlad eto o ystyried difrifoldeb y drosedd.

Dywedodd Chris Coleman: "Unwaith rydych chi'n crybwyll y geiriau 'treisiwr sydd wedi ei gael yn euog', mae'n gwneud i'ch gwallt sefyll fyny ar gefn eich gwddf."

'Trafodaeth ddifrifol'

Disgrifiad o’r llun,

Byddai Chris Coleman angen trafod y sefyllfa'n drylwyr gyda'r Gymdeithas Bêl-droed cyn gwneud penderfyniad

Mae dros 64,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar ei gyn glwb Sheffield United i beidio â'i gyflogi eto.

Ychwanegodd Mr Coleman: "Mi fydd y sgwrs yn un rhyngof i a'r Gymdeithas Bêl-droed. Dydw i erioed wedi meddwl 'mae Ched yn dod mas o'r carchar, rwyf am ei roi yn y garfan'.

"Does ganddo ddim hyd yn oed clwb ar hyn o bryd ac mae wedi bod i ffwrdd o bêl-droed am amser hir, mae'n rhaid iddo ddod 'nôl fewn i bethau ac os yw e'n darganfod clwb, mae'n rhaid iddo gyrraedd yr un lefel ag o'r blaen.

"Ond wrth gwrs, mae'r drosedd mae wedi ei chael yn euog ohoni yn un ddifrifol iawn, mae'n un sy'n gwneud i chi wingo pan ry'ch chi'n clywed y geiriau.

"Os yw Ched yn dod yn ôl a chael clwb... mi fyddai yna drafodaeth hir a difrifol cyn gwneud unrhyw benderfyniad."

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth y Daily Post gyhoeddi sylwadau, dolen allanol gan ffynhonnell o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru oedd yn dweud bod Evans yn "dalentog" a bod y tîm "angen rhywun all sgorio goliau yn ofnadwy".

Fe wrthododd y gymdeithas â chefnogi'r datganiad wedi i Cymru Fyw gysylltu â nhw, gan ddweud nad ydyn nhw'n fodlon gwneud sylw swyddogol ar y mater ar hyn o bryd.

Mae Sheffied United hefyd yn gwrthod gwneud sylw ar y mater.