'Maddeuant ac undod': Neges y Pasg

  • Cyhoeddwyd
Dr Barry Morgan

Dwy o straeon fu yn y newyddion sydd gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, dan sylw yn ei neges ar gyfer y Pasg eleni.

"Mae dwy stori a fu yn y newyddion yn ddiweddar yn dangos i mi mewn ffordd ryfeddol/dadlennol ystyr y Pasg ac atgyfodiad Iesu.

"Cafodd y Tad Francis, offeiriad Jeswit yn ninas Homs yn Syria, ei saethu'n farw.

"Roedd wedi gwrthod gadael ei gynulleidfa Gristnogol fechan ac wedi bod gyda hwy dros y tair blynedd ddiwethaf er eu bod dan warchae, heb fawr o fwyd ac mewn perygl parhaol oherwydd ffrwydron.

"Dywedodd, yn union fel y bu gyda phobl yn ystod y dyddiau da, ei fod yn awr eisiau bod mewn undod gyda hwy yn eu poen hyd yn oed os oedd hynny'n golygu colli ei fywyd."

'Sefyll mewn undod'

Meddai Dr Morgan: "Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn uniaethu Ei hun gyda dynoliaeth drwy Iesu Grist mewn ffordd mor llawn ag sy'n bosibl i Dduw gael ei uniaethu gyda dynoliaeth a'i fod drwy Iesu yn sefyll mewn undod gyda dynolryw.

"Gan fod yn fodlon dioddef poen a marwolaeth, mae Iesu yn gwrthod gadael ei dasg o ddatgan teyrnas Dduw pan ddaw'n amlwg y caiff ei ladd os yw'n parhau i wneud hynny. Mae Duw'n fodlon dioddef poen, artaith a hyd yn oed farwolaeth ei hunan oherwydd Ei gariad at ddynoliaeth."

Fe nododd Dr Morgan stori arall, yn ogystal: "Mae'r stori arall am fenyw Tutsi o Rwanda, y cafodd ei llaw ei thorri ymaith a'i baban ei ladd gan ddyn o lwyth Hutu 20 mlynedd yn ôl yn ystod yr hil-laddiad yn y wlad honno.

"Plygodd Emmanuel yr Hutu o flaen Alice a gofyn am ei maddeuant. Roedd Alice wedi colli tua 24 o aelodau ei theulu yn ystod y cyfnod hwn ac roedd Emmanuel wedi'i gadael gan feddwl ei bod yn farw. Er mor galed oedd hynny, penderfynodd faddau iddo.

'Angen mwyaf'

"Neges gyntaf yr Iesu atgyfodedig i'w ddisgyblion yw sicrwydd Ei heddwch Ef. Yr union bobl a ddihangodd oddi wrtho yn ystod ei awr o angen mwyaf oedd yn awr y bobl yr oedd yn rhaid ymddiried Ei efengyl iddo.

"Fel canyniad i'w faddeuant Ef, fe wnaeth y weithred honno drawsnewid eu bywydau. Pe byddai Ef wedi'u ceryddu, ni fyddai unrhyw newyddion da i'w ddatgan.

"Mae undod a maddeuant yn crynhoi ystyr y Pasg a phan welir y gwerthoedd hyn yn cael eu harddangos, mae rhywun yn dechrau sylweddoli arwyddocâd yr hyn y mae'n ei olygu i gredu yn Nuw Iesu."