Eglwysi'n uno i ddathlu'r Pasg

  • Cyhoeddwyd
Perfformiad Gwener GroglithFfynhonnell y llun, Cytun Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cyflwyniadau dramatig i'w gweld o daith Crist at y groes yn cael eu cynnal yn Wrecsam.

Mae eglwysi ledled Cymru yn uno i ddathlu'r Pasg gyda nifer o ddigwyddiadau a gwasanaethau arbennig.

Yn Wrecsam, mae golygfeydd o'r Groglith yn cael eu perfformio y tu allan i siopau lleol wedi gorymdaith drwy'r dre.

Mae pobl yn gorymdeithio drwy'r Barri ym Mro Morgannwg hefyd ac yn Llanelwy yn Sir Ddinbych i nodi taith Crist at y groes.

Mae eglwysi Cytun Wrecsam yn dod at ei gilydd unwaith eto eleni i ail-greu golygfeydd o ddyddiau olaf Iesu Grist.

Mae'r digwyddiadau'n dechrau y tu allan i amgueddfa'r dre a bydd y perfformwyr yn teithio oddi yno tuag at westy'r Wynnstay ac yna i ganolfan siopa Dôl yr Eryrod.

Ym Mro Morgannwg, mae cannoedd o bobl yn ymuno â thaith ddwy filltir drwy'r dre i nodi taith Crist at y groes.

Mae'n dechrau ganol dydd yng ngerddi Knap ac yn gorffen gyda gwasanaeth yn Sgwar y Brenin.

Dywedodd y rheithor, Robert Parrish, o eglwys Merthyr Dyfan: "Y syniad tu ôl yr orymdaith hon yw mynd â'r eglwys allan at y bobl. Gan y byddwn ni'n cerdded drwy'r strydoedd, fe fydd pobl yn dod i fyny atom i wylio, gwrando ac ymuno."

Mae taith debyg yn cael ei chynnal yn Llanelwy, rhwng eglwys y plwyf a'r gadeirlan.

Yn ogystal, mae gwasanaeth corawl yn y gadeirlan am ddau o'r gloch, fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal drwy'r wythnos.