Cwest: Tân gwyllt 'ddim ar fai'
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi dweud nad tân gwyllt mewn clwb rygbi oedd y rheswm am ddamwain ar yr M5 laddodd saith o bobl.
Roedd y ddamwain ger Taunton, Gwlad yr Haf, ar Dachwedd 4 2011 ac anafwyd 51 ger Cyffordd 25.
Ymhlith y rhai fu farw roedd y pâr o Gasnewydd, Tony a Pamela Adams.
Clywodd y cwest nad oedd modd i batholegwyr gadarnhau beth oedd achos marwolaeth y ddau gan gymaint oedd difrod y tân.
Yn yr ardal ar y pryd roedd y niwl yn drwchus ac yn y cwest yn Taunton dywedodd y crwner Michael Rose: "Nid mwg oedd achos y ddamwain.
'Gwaethygu'
"Ond ni allaf ddiystyru'r posibilrwydd y gallai'r mwg fod wedi gwaethygu'r sefyllfa, fod wedi lleihau gallu gyrwyr i weld beth oedd yn digwydd."
Dywedodd y byddai'n trafod ag adrannau trafnidiaeth ac Asiantaeth y Prif-ffyrdd fesurau er mwyn sicrhau na fyddai damwain fel hon yn digwydd eto.
Roedd y cwest wedi clywed oddi wrth dystion welodd "wal o niwl trwchus".
Gwadodd trefnydd yr arddangosfa tân gwyllt Geoffrey Counsell fod mwg wedi lledu i'r draffordd.
Dywedodd ei fod wedi trefnu mwy na 100 o arddangosfeydd ers 20 mlynedd.
Clywodd y cwest iddo gyfarfod swyddogion y clwb cyn Tachwedd 2011 er mwyn cynnal asesiad risg.
Ym mis Rhagfyr cafwyd Mr Counsell yn ddieuog o dorri Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.
Cyfres o ddamweiniau
Clywodd y cwest fod cyfres o ddamweiniau ar yr M5 ychydig o funudau ar ôl i'r tân gwyllt ddod i ben ar y cae clwb rygbi tua 200 o droedfeddi o'r draffordd.
Dywedodd John Krostovnikoff, gyrrwr lori, wrth y cwest: "Fel rheol, fe allwch chi weld niwl yn dod ond y tro hwn roedd hi'n glir cyn mynd drwy wal, yn hynod drwchus."
Dywedodd Ian Thorne, gyrrwr fan oedd yn dychwelyd i Taunton, iddo weld mwg trwchus funudau cyn y ddamwain.
"Roedd hi'n anodd gweld. Roeddwn yn gallu gweld y tân gwyllt, ac yn gallu gweld y mwg yn mynd i gyfeiriad y draffordd.
"Roedd y mwg tua 200 llath o drwch ac yn gwynto fel sylffwr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011