Rhyddid y Ddinas i Weithwyr Meddygol
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Ysbyty Maes (Cymru) 203 yn derbyn Rhyddid Dinas a Sir Caerdydd fel cydnabyddiaeth am ei wasanaethau i Gaerdydd.
Yr uned feddygol, sy'n cael ei adnabod fel y Medics Cymreig, fydd y nawfed sefydliad yn unig i ennill yr anrhydedd ers 1886.
Cyflwynir yr anrhydedd am 10.30 fore Llun mewn seremoni gwahoddiadau yn unig, yn Neuadd y Ddinas.
Mae disgwyl i aelodau'r cyhoedd ddod i gefnogi y tu allan i Neuadd y Ddinas lle bydd Saliwt Gynnau Brenhinol yn digwydd i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi y Frenhines.
Bydd y Medics Cymreig wedyn yn rhan o Orymdaith Rhyddid am 11.30 y bore.
Dywedodd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae'r dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu yn yr uned feddygol yn genhadon gwych dros y ddinas.
"Drwy roi rhyddid y ddinas iddynt, rydym yn cydnabod y cyswllt cryf sydd rhwng yr uned â Chaerdydd a'r cyfraniad mawr a wneir ganddi.
"Maen nhw'n ymuno ag unigolion a sefydliadau nodedig sydd eisoes wedi derbyn anrhydedd Rhyddid y Ddinas."
Sefydlwyd Y Meddygon Cymreig yng nghanol y 1990au, ond bu elfennau o Ysbyty'r Adfyddin Cymreig yn gweithio o Gaerdydd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, yn gweithredu dan wahanol enwau.
Gofal dwys i filwyr wedi'u hanafu
Mae Ysbyty Maes (Cymru) 203 newydd ddychwelyd yn ddiweddar o ail daith yr uned yn Afghanistan.
Fe fuon nhw'n gwasanaethu yng Nghamp Bastion fel yr ysbyty oedd yn darparu gofal clinigol tyngedfennol i filwyr anghenus a phobl leol oedd wedi eu niweidio.
Mae'n un o unedau trawma mwyaf blaenllaw y Byd.
Mae wyth aelod o'r uned yn dal i wasanaethu'n weithredol a byddant yn dychwelyd ddechrau Mai.
Dywedodd y Cyrnol Tina Donnelly, Pennaeth Milwrol Ysbyty Maes (Cymru) 203: "Roedd darparu gofal ysbyty brys a gofal o ddydd i ddydd i'r rheiny yr oedd arnyn nhw ein hangen yn anrhydedd fawr i ni.
"Rydym ni'n falch iawn o gael y cyfle i fod yn rhan o'r seremoni ffurfiol ... ac i fynychu'r Saliwt Gynnau Brenhinol yn Neuadd y Ddinas.
"Mae'n anrhydedd fawr i ni. Fel Meddygon Cymru rydyn ni'n edrych ymlaen at ddathlu gyda'n teuluoedd a'r cyhoedd."
Mae'r uned, sy'n gweithio o ganolfan y Fyddin Diriogaethol yn Ystum Taf, yn cefnogi'r fyddin arferol drwy ddarparu gweithwyr meddygol proffesiynol yn Affganistan a mannau eraill lle mae anghydfod.
Mae Ysbyty Maes Cymru wedi cyflenwi staff meddygol i nifer o lefydd, gan gynnwys ynysoedd y Falklands, Rhyfel y Gwlff, Brwydr y Balkans, Rhyfel Iraq a chadw'r heddwch yng Ngogledd Iwerddon a Chyprus.
Dywedodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Derrick Morgan: "Mae cyflwyno Rhyddid Dinas Caerdydd i Ysbyty Maes (Cymru) 203 yn anrhydedd fawr, ac mae cydnabod gwaith y dynion a'r menywod sydd wedi rhoi cymaint er mwyn achub pobl mewn gwledydd lle mae rhyfel yn bwysig iawn."