Busnes bwyd yn creu 35 swydd yn Nhywyn, Gwynedd.
- Cyhoeddwyd
Bydd busnes bwyd newydd sy'n arbenigo mewn byrbrydau iach yn agor yn Nhywyn, Gwynedd.
Dywed Brighter Foods y bydd yn cyflogi 35 o bobl yn y lle cyntaf.
Fe wnaeth dros gant o bobl golli eu swyddi y llynedd pan gaewyd ffatri bwyd Halo yn Nhywyn.
Meddai Robin Williams: Prif Swyddog Gweithredol, Brighter Foods
"Yr ydym yn awr yn mynd ati i recriwtio ac yn bwriadu cyflogi dros 35 o bobl yn 2014 a thyfu ymhellach yn 2015.
"Bydd yn wych i ddod â chyflogaeth mawr ei hangen i ardal Tywyn. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru sydd wedi cefnogi ein cynlluniau drwy Cyllid Busnes a Chyngor Gwynedd sydd wedi ein cefnogi drwy'r Gronfa Benthyciadau Lleol".
Roedd ffatri Halo wedi bod yn gyflogwr mawr yn yr ardal am dros 30 mlynedd.
Cafodd y gweithwyr i gyd gynnig ail-leoli i Gasnewydd, ond dim ond tua 10% o'r 105 o weithwyr a wnaeth penderfynu gael eu trosglwyddo yno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2013