Llinell ffôn trais yn y cartref dros yr Ŵyl
- Cyhoeddwyd
Mae llinell gymorth sy'n rhad ac am ddim wedi ei lansio i helpu rhai sy'n diodde' trais yn y cartref dros y 'Dolig a'r Flwyddyn Newydd.
Fe fydd y llinell ar agor 24/7, ac mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan lywodraeth Cymru.
Fe ddywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews fod tystiolaeth yn dangos cynnydd yn nifer yr achosion o drais domestig dros yr Ŵyl.
Mae'r llinell - 0808 80 10 800 - yn cael ei staffio gan arbenigwyr â gwybodaeth eang o faterion sy'n ymwneud â thrais yn y cartref.
"Yn aml, mae gan bobl ormod o ofn neu gywilydd i godi eu llais - dyna pam mae llinellau cymorth fel hyn mor werthfawr," meddai Mr Andrews.
Yn 2013, fe roddodd y gwasanaeth gymorth i 27,830 o alwyr - bron i 80 bob diwrnod ar gyfartaledd.