Nick Clegg yn gaddo 'economi cryfach' i Gymru
- Cyhoeddwyd
Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn brwydro i adeiladu economi cryfach a chymdeithas decach ar gyfer Cymru, yn ôl Nick Clegg.
Mae'r dirprwy brif weinidog yn lansio ymgyrch ei blaid yng Nghymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol yng Nghanol Caerdydd, sedd y blaid sy'n cael ei dargedu gan y Blaid Lafur.
Dywedodd y byddai Cymru'n cael ei niweidio gan doriadau'r Torïaid a benthyca gormodol Llafur.
Fe fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydbwyso cyllid ac yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus, mynnodd.
Dywedodd Mr Clegg wrth BBC Radio Wales ddydd Mawrth ei bod yn hanfodol bod y llywodraeth nesaf yn aros "yn gadarn ar y tir canolog".
Fe fydd y blaid yn gobeithio cadw gafael ar eu tair sedd Gymreig yn San Steffan, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed, Canol Caerdydd a Cheredigion.
Maen nhw'n gobeithio adennill Sir Drefaldwyn, gollon nhw i'r Torïaid yn 2010.