Gwasanaeth cyffuriau: gwadu camddefnydd

  • Cyhoeddwyd
Bodybuilding forum
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl sy'n defnyddio steroids wedi bod yn trafod Wedinos ar stafelloedd siarad

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad ydi gwasanaeth cyffuriau y maen nhw yn ei ariannu yn cael ei gamddefnyddio gan bobl sy'n gwerthu steroids.

Mae BBC Cymru wedi darganfod gwefannau sydd yn trafod danfon steroids i gynllun Wedinos er mwyn profi beth sydd yn y sampl.

Ar un fforwm mae rhywun wedi gadael neges: "Mi fyddwn i yn anfon y tab cyntaf o'r holl gynnyrch rydyn ni yn ei wneud i Wedinos."

Mae'r unigolyn yn dweud bod y neges wedi ei hanfon ato gan berson oedd yn cyflenwi steroids iddo.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, dyw Wedinos ddim yn profi a chofnodi purdeb cynnyrch felly nid oes modd i'r gwasanaeth gael ei ddefnyddio i hyrwyddo mathau gwahanol o steroids.

Profi am steroids

Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am wasanaeth Wedinos. Mi gafodd y gwasanaeth ei sefydlu er mwyn trio taclo cyffuriau sy'n rhoi cic gyfreithlon - legal highs - sydd wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar.

Y bwriad ydy darganfod pa gemegau sydd yn cael eu defnyddio a defnyddio'r wybodaeth i leihau'r niwed i unigolyn wrth eu cymryd.

Mae pobl yn medru anfon sylweddau yn anhysbys ac wedyn edrych ar wefan Wedinos i gael syniad o'r hyn sydd yn y cyffur. Mae steroids wedi eu darganfod mewn sawl un o'r samplau.

Mae'r wefan hefyd yn cael sylw mewn sawl gwefan trafod.

Mae yna un sylw yn dweud: "Dw i'n meddwl bod y prif fwriad ar gyfer cyffuriau achlysurol ond mae'n cael ei ddefnyddio lot gan bobl sy'n defnyddio steroids. Ond mae'r profion ond yn dangos rhai o'r sylweddau, dim pob manylun.

Neges arall oedd: "Unrhyw un ym Mhrydain/Cymru wedi defnyddio gwasanaeth profi cyffuriau Wedinos? Mae am ddim, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn bennaf er mwyn profi cyffuriau 'cic cyfreithlon'.

"Ond dw i wedi sylwi bod steroids ... yn cael eu profi hefyd. Rydych chi yn llenwi ffurflen ac yn postio pilsen iddyn nhw. Maen nhw yn ei brofi fo er mwyn gwybod y prif gyfansoddyn ac yn cyhoeddi'r canlyniadau ar eu gwefan. "

Disgrifiad o’r llun,

Profi i weld pa gemegau sydd mewn cyffuriau y mae gwasanaeth Wedinos

Y cyffur 'ar gynnydd'

Trwy bresgripsiwn y mae modd cael anabolic steroids. Dydy'r cyffur ddim yn anghyfreithlon ar gyfer defnydd personol. Ond mi all person dreulio 14 blynedd dan glo os ydyn nhw'n gwerthu'r cyffur i bobl eraill.

Mae 'na nifer o sgil effeithiau posib sy'n cynnwys codi pwysau gwaed, trawiad ar y galon a newid ymddygiad person.

Dyw Non Evans, sydd yn gyn chwaraewraig rygbi ac yn codi pwysau, erioed wedi defnyddio steroids. Ond mae'n dweud bod sawl person yn gwneud.

"Dwi'n hyfforddi yn galed iawn a dw i'n gweld pobl sydd yn hyfforddi yn galed ac yn bwyta'n iawn ac maen nhw'n siâp arbennig. Chi yn gallu dweud pwy sydd yn cymryd steroids achos maen nhw yn edrych yn fwy ac fel eu bod nhw wedi chwyddo."

'Pryder mawr'

Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar, dyw gwasanaeth Wedinos ddim yn gweithio'n iawn.

"Mae hyn yn achos o bryder mawr. Pan mae steroids yn cael eu defnyddio yn iawn maen nhw'n medru bod o fudd mawr i iechyd pobl.

"Ond pan maen nhw'n cael eu creu yng ngeginau pobl ac yn cael eu defnyddio gan bobl sydd ddim yn gwybod pa mor niweidiol y maen nhw'n gallu bod, mi allen nhw achosi problemau sylweddol i iechyd pobl.

"Er bod y wefan wedi ei sefydlu gyda bwriad da, dwi'n credu bod yr holl beth yn dechrau mynd o chwith. "

Ond mae Dr Mohan De Silva o'r elusen gyffuriau Kaleidoscope yn dweud bod Wedinos yn gwneud y peth iawn trwy brofi samplau steroid.

"Chafodd e ddim ei sefydlu i brofi purdeb na'r nifer o steroids sydd yn bodoli. Ond os oes na berson yn defnyddio sylwedd, am ba bynnag rheswm, mi ddylai gael yr un hawl i brofi'r sylwedd hwnnw.

"Efallai dros gyfnod o amser y bydd angen edrych eto ar y nifer o samplau steroid sydd yn cael eu hanfon i'w profi. Ond tan hynny dwi'n credu dylai'r gwasanaeth barhau fel y mae o."

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r ystod o gyffuriau sydd yn cael ei anfon at Wedinos yn cynnwys cyffuriau newydd, y cyffuriau 'cic cyfreithiol' - steroids a chyffuriau sydd yn gwella perfformiad neu ddelwedd person.

'Gwrthod'

"Rydyn ni yn gwrthod yr awgrym fod y gwasanaeth yma yn cael ei gamddefnyddio gan bobl sydd yn gwerthu cyffuriau. Dyw Wedinos ddim yn edrych ar burdeb cyffur penodol.

"Mae'r gwasanaeth yn adnabod ac yn adrodd ar y cemegau sydd yn cael eu defnyddio mewn sampl ac yn dweud yr effeithiau posib. Felly does dim modd iddo gael ei ddefnyddio fel offeryn i fesur ansawdd cyffur neu er mwyn hybu'r defnydd o steroids neu gyffuriau eraill gwella delwedd.

"Mae gwneud yn siwr bod pawb yn medru defnyddio'r gwasanaeth yn bwysig am ein bod ni yn gwybod bod nifer sydd fwyaf tebygol o gamddefnyddio sylweddau yn annhebygol o fod mewn cysylltiad gyda gwasanaethau all gynnig triniaeth. Mae'n hollbwysig bod y neges o sut i leihau niwed yn cyrraedd y mathau yma o bobl."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol