Iechyd preifat: Hawliau newydd i gleifion gwyno

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty

Bydd pobl yng Nghymru sy'n talu am eu gofal cymdeithasol eu hunain neu'n derbyn gofal lliniarol yn gallu cwyno am y gwasanaethau hynny i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan newid i'r gyfraith sy'n dod i rym ddydd Sadwrn.

Mae gan yr Ombwdsmon bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Tan i'r gyfraith newid, dim ond i gwynion ynglŷn â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol oedd yn cael eu darparu gan awdurdod lleol neu fwrdd iechyd lleol oedd yn gallu cael eu hymchwilio gan yr Ombwdsmon.

Daw'r newid o ganlyniad i ymgynghoriad gafodd ei gynnal gan Lywodraeth Cymru.

'Cam mawr ymlaen'

Roedd yr ymgynghoriad yn ystyried a ddylid caniatáu i'r Ombwdsmon dderbyn cwynion ynglŷn â gofal lliniarol a gofal cymdeithasol sy'n cael eu trefnu a'u hariannu'n breifat.

O ganlyniad, mae'r ddeddf yn cynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i'r Ombwdsmon ystyried cwynion gan bobl sy'n ariannu eu gofal eu hunain.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: "Mae ymestyn cylch gorchwyl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymdrin â gwasanaethau gofal lliniarol a gofal cymdeithasol sy'n cael eu trefnu neu eu hariannu'n breifat yn gam mawr ymlaen i ddinasyddion a fydd yn cyfrannu at ein hamcan o wella gofal a chymorth i bawb."

Ychwanegodd bod y newid yn "dangos yn glir bod gan bawb sy'n gwneud cwyn am y gofal y maen nhw'n ei dderbyn yr hawl i gael gwrandawiad a bod rhywun yn mynd i'r afael â'u pryderon mewn ffordd effeithiol".