Kirsty Williams: Angen cydweithio dros iechyd

  • Cyhoeddwyd
Kirsty Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty Williams wedi dweud "na ddylai gwleidyddion ddefnyddio'r GIG fel gêm bêl-droed wleidyddol" gan annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dweud bod angen i wleidyddion Cymru a'r DU gydweithio, i sicrhau nad yw'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn dod yn "rhwystr diangen" i bobl sy'n ceisio derbyn iechyd.

Mae Kirsty Williams, sy'n cynrychioli etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ar y ffin â Lloegr, yn dweud bod angen i wleidyddion ddilyn esiampl y byrddau iechyd bob ochr i Glawdd Offa.

Daw'r rhybudd wedi i Ymddiriedolaeth GIG Dyffryn Gwy, sy'n darparu gofal ar gyfer 40,000 o gleifion o Gymru bob blwyddyn, gael ei roi mewn mesurau arbennig yn dilyn archwiliad gan y Comisiwn Safon Gofal.

Mae Ms Williams yn credu bod yr adroddiad yn bryderus, ond mae hi'n dweud bod angen cydweithio i sicrhau'r gorau i bobl ar bob ochr i'r ffin.

'Annigonol'

Roedd y Comisiwn wedi darganfod bod gwasanaethau Ysbyty Henffordd yn "annigonol", nad oedd adran damwain ac argyfwng yr ysbyty "bob tro'n ddiogel" ac nad oedd "preifatrwydd ac urddas" cleifion yn cael ei barchu bob tro. Roedd adrannau eraill hefyd "angen gwella".

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth eu bod nhw eisoes wedi gweithredu i fynd i'r afael â'r pryderon oedd wedi eu codi gan y Comisiwn, gan gynnwys recriwtio mwy o weithwyr i'r adran damwain ac argyfwng, a buddsoddi mwy o arian yn yr adran honno.

Wrth siarad gyda'r rhaglen Sunday Politics, dywedodd Kirsty Williams bod "yr adroddiad yn peri pryder".

"Yn amlwg rydyn ni eisiau i gleifion dderbyn y gofal gorau, os ydyn nhw'n derbyn y driniaeth honno yng Nghymru neu yn Lloegr, ac yn amlwg mae angen i Henffordd wneud gwelliannau er mwyn sicrhau gwasanaethau cyson ym mhob adran."

'Gêm bêl-droed wleidyddol'

Ond dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol leol, Jesse Norman y dylai "pobl yng Nghymru sy'n defnyddio'r gwasanaethau boeni llawer mwy am gyflwr y GIG yng Nghymru, nac am Ysbyty Henffordd".

Daw'r adroddiad wedi cyfnod gwleidyddol sensitif ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Yn yr wythnosau diwethaf mae safon y gofal mae cleifion yn derbyn yng Nghymru wedi llenwi tudalennau'r papurau newydd. Roedd cyfres o straeon ym mhapur newydd y Daily Mail yn cyfeirio at gleifion o Gymru sy'n croesi'r ffin am driniaeth fel "ffoaduriaid".

Yn ddiweddar dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, wrth Aelodau Seneddol: "Dydw i ddim am honni bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn berffaith, ond dydi o ddim yn berffaith yn Lloegr chwaith."

Dywedodd Kirsty Williams "na ddylai gwleidyddion ddefnyddio'r GIG fel gêm bêl-droed wleidyddol", gan annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithio.

Aeth ymlaen i ddweud: "Mae gan Fwrdd Iechyd Lleol Powys berthynas dda gyda'r byrddau lleol dros y ffin. Ond yn anffodus dydi'r gwleidyddion ddim yn rhannu'r un math o berthynas.

"Mae gan Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gyfrifoldeb i gydweithio er mwyn sicrhau nad yw'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn dod yn rhwystr di-angen i bobl sy'n ceisio derbyn triniaeth o safon."

Bydd Sunday Politics ar BBC One Wales ddydd Sul 2 Tachwedd am 11:00yb.