Teyrngedau i Tegai Roberts o Batagonia

  • Cyhoeddwyd
Tegai Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Tegai Roberts yn 87 oed

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Tegai Roberts, fu farw yn 87 oed ddydd Mercher.

Tegai Roberts oedd gor-wyres Michael D. Jones a Lewis Jones, y ddau ddyn a sefydlodd y Wladfa ym Mhatagonia bron 150 o flynyddoedd yn ôl.

Bu farw mewn ysbyty yn Nhrelew, Patagonia, Yr Ariannin, bnawn Mercher.

Bydd ei hangladd yn cael ei gynnal ddydd Iau yn y Gaiman.

Roedd Tegai yn or-wyres, ar ochr ei thad, i Michael D. Jones, sylfaenydd y Wladfa.

Roedd hi hefyd yn or-wyres, ar ochr ei mam, i Lewis Jones, arweinydd cyntaf y Wladfa a'r gŵr a enwyd Trelew ar ei ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tegai Roberts yn gyfrifol am raglen wythnosol Gymraeg ar Radio Chubut ym Mhatagonia

Mae Cymdeithas Cymru Ariannin wedi disgrifio ei marwolaeth fel un "trist iawn" i'r disgynyddion o Gymru ac i'r iaith Gymraeg ym Mhatagonia.

Roedd Tegai Roberts yn gyfrifol am raglen wythnosol ar orsaf Radio Chubut am nifer o flynyddoedd.

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd Radio Chubut bod "Cymru i'w gweld yn ei llygaid", a bod "llais un oedd yn filwriaethus dros ddiwylliant Cymraeg wedi pylu".

Ym mis Gorffennaf 2015, fe fydd hi'n 150 o flynyddoedd ers i'r Cymry cyntaf lanio ym Mhorth Madryn oddi ar fwrdd llong y Mimosa.