Eisteddfod Genedlaethol: Gweddill o £90,000

  • Cyhoeddwyd
Maes Eisteddfod Genedlaethol 2014

Dywed yr Eisteddfod Genedlaethol fod yr ŵyl gafodd ei chynnal yn Llanelli eleni wedi dangos gweddill o £90,000.

Gwnaed y cyhoeddiad wrth i gyngor yr Eisteddfod gwrdd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts fod Eisteddfod Sir Gâr wedi bod yn llwyddiant mawr.

Dros gyfnod o lai na dwy flynedd fe lwyddodd y gronfa leol i godi £410,000.

"Mae trigolion lleol nid yn unig wedi cefnogi'r ŵyl ei hun, ond hefyd wedi dangos eu cefnogaeth i'r prosiect cymunedol dros gyfnod o ddwy flynedd, gan drefnu a mynychu dros 450 o weithgareddau codi arian ac ymwybyddiaeth yn eu cymunedau eu hunain.

"Golygai hyn eu bod wedi cyrraedd 128% o darged y gronfa leol - y cyfanswm mwyaf i'w godi erioed," meddai Mr Roberts.

"Mae'r cyfarfod heddiw yn Aberystwyth yn gyfle i ddiolch i bobl Sir Gâr yn ffurfiol, yn ogystal â diolch i Gyngor Sir Gâr, yn aelodau etholedig a staff, am eu holl gefnogaeth a chymorth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf."

Daeth 143,502 o bobl i'r Maes ar Barc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod fod "hyn yn gyson gyda'r niferoedd sydd wedi mynychu'r Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf."

Bydd adroddiad gwerthuso i'w gweld ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol yn dilyn cyfarfod y cyngor.