Cyngor Ceredigion yn barod am dywydd garw

  • Cyhoeddwyd
Bu difrod i brom Aberystwyth ddechrau 2014Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Bu difrod i brom Aberystwyth ddechrau 2014

Mae trigolion Ceredigion wedi cael gwybod fod y cyngor yn ymbaratoi am dywydd garw dros y gaeaf.

Yn ôl swyddogion y cyngor, mae 'na gynllun yn ei le i wynebu llifogydd tebyg i'r rhai a welwyd ddechrau'r flwyddyn.

Yn ogystal ag adolygu'r cynllun, mae'r cyngor hefyd yn trafod yn gyson gyda'r gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gwefan yr awdurdod hefyd yn cael ei ailwampio er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddara' i drigolion.