Car heddlu mewn damwain wrth dywys ambiwlans
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd heddwas fân anafiadau nos Wener, pan fu mewn gwrthdrawiad wrth dywys ambiwlans yng Nghaerdydd.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar Manor Way toc cyn 8.00pm nos Wener.
Fe gafodd gyrrwr Vauxhall Zafira coch - menyw 49 oed - ei harestio gan fod gormod o alcohol yn ei gwaed, ond fe gafodd hi ei rhyddhau heb ei chyhuddo, gan fod y lefelau wedi gostwng erbyn y profion swyddogol yn yr orsaf heddlu.
Aeth teithiwr yn y Zafira i'r ysbyty gyda mân anafiadau, hefyd.
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.