Newid rhai ffyrdd 20mya yn ôl i 30mya ym mis Medi

Arwydd 20myaFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bydd y broses o newid rhai ffyrdd 20mya i 30mya yn dechrau ym mis Medi, yn ôl ysgrifennydd trafnidiaeth newydd Cymru.

Mae Ken Skates yn annog pobl i gysylltu â chynghorau lleol a dweud wrthyn nhw "ble maen nhw'n meddwl y dylai 20mya gael ei dargedu".

Llywodraeth Cymru yn hytrach na chynghorau fydd yn talu am y gost o newid ffyrdd yn ôl i'w terfyn cyflymder blaenorol, meddai.

Ond dywedodd y Ceidwadwyr y byddai parthau 20mya eang yn parhau, a bod "dim byd wedi newid".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Mr Skates hefyd wedi pwysleisio y byddan nhw'n adeiladu ffyrdd newydd, gan roi enghreifftiau o waith fydd yn dechrau ar ffyrdd yng ngogledd Cymru.

Nod y polisi dadleuol, a ddaeth i rym ar draws Cymru ym mis Medi, yw gwella diogelwch ar y ffyrdd.

Fe gafodd y terfyn cyflymder ar y mwyafrif o ffyrdd mewn ardaloedd trefol ei ostwng o 30mya i 20mya.

Tra bod ymgyrchwyr diogelwch ffordd wedi croesawu'r newid, mae eraill wedi ei feirniadu'n chwyrn ac mae dros 500,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw am ei ddileu.

Wrth amlinellu ei flaenoriaethau fel ysgrifennydd trafnidiaeth, dywedodd Mr Skates wrth y Senedd bod y llywodraeth yn parhau i gredu mai "20mya yw'r terfyn cyflymder cywir ble mae plant a phobl fregus mewn cyswllt agos â thraffig".

Er enghraifft "wrth ysgolion, ysbytai, meithrinfeydd, canolfannau cymunedol, meysydd chwarae ac mewn ardaloedd poblog".

Ond dywedodd ei fod yn gwrando ar beth mae pobl eisiau ar gyfer y ffyrdd yn eu cymunedau.

"Dwi'n annog pobl i gysylltu gyda'u cyngor lleol i ddweud wrthyn nhw ble maen nhw'n credu y dylai 20mya gael ei dargedu".

Er gwaetha'r holl brotestiadau a deisebau yn gwrthwynebu 20mya, fydd 'na ddim newid sylfaenol i'r polisi.

Mae Ken Skates, fel ei ragflaenydd, yn dal i gredu mai dyma'r cyflymder cywir er mwyn gwarchod y cyhoedd.

Ond mae'n derbyn bod angen i rai ffyrdd newid, yn enwedig ble mae 'na wrthwynebiad lleol.

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn gwrando, ond eto i rai, fydd y cyhoeddiad heddiw ddim yn mynd yn ddigon pell.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates y byddan nhw hefyd yn adeiladu ffyrdd newydd

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Mr Skates: "Rhwng nawr a mis Gorffennaf byddwn yn gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei gredu ddylai ddigwydd.

“Ochr yn ochr â hynny, bydd canllawiau’n cael eu llunio - canllawiau diwygiedig - a fydd wedyn rhwng Gorffennaf a Medi yn galluogi cynghorau i wirio eu bod yn gallu gwneud newidiadau i’r terfyn cyflymder ar rai llwybrau.

"Ym mis Medi, fe fydd y broses o ailgyflwyno 30mya i rai llwybrau lle mae pobl yn dymuno ei weld yn digwydd."

'Dim byd wedi newid'

Ond mae'r Ceidwadwyr yn mynnu y dylai'r polisi gael ei ddileu yn llwyr.

Yn ôl eu llefarydd trafnidiaeth Natasha Asghar: “Y gwir amdani yw, ar ôl holl sôn Llafur am wrando ar bobl Cymru, mai 20mya fydd y terfyn cyflymder ledled Cymru o hyd.

"Does dim byd wedi newid."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros drafnidiaeth, Delyth Jewell fod yn "rhaid i'r llywodraeth Lafur ganolbwyntio ar ddarparu isadeiledd sy'n gweithio i'n cymunedau".

"Mae dros chwe mis wedi mynd heibio ers i Blaid Cymru gyflwyno gwelliant i'r Senedd, ac ennill y bleidlais, gan ennill ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i adolygu effaith terfynau newydd ac i rymuso awdurdodau lleol i wneud eithriadau pellach.

"Mae angen i'r llywodraeth Lafur ddefnyddio'r pwerau a basiwyd trwy welliant Plaid Cymru a gweithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau i unioni’r polisi hwn unwaith ac am byth."

Adeiladu ffyrdd newydd

Mae'r llywodraeth hefyd wedi'u beirniadu am ganslo pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd yng Nghymru

Ond dywedodd yr ysgrifennydd trafnidiaeth y byddan nhw yn adeiladu ffyrdd newydd.

"Bydd croesfan newydd yr A494 dros yr Afon Dyfrdwy yn mynd yn ei blaen.

"Bydd y gwelliannau i Ffordd Yr Wyddgrug i Wrecsam yn digwydd.

"Rydym wedi derbyn argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ar gyfer rheoli traffig yn well o amgylch Porthaethwy.

"Dim ond tair esiampl yw hyn."