Carcharu gyrrwr ifanc am ladd bachgen 13 oed

Harley WhitemanFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Harley Whiteman ei ddedfrydu i chwe blynedd a naw mis mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd a naw mis dan glo am ladd bachgen 13 oed yn Rhondda Cynon Taf ar ôl ei daro gyda char.

Bu farw Kaylan Hippsley dridiau ar ôl cael ei daro gan gar a oedd yn cael ei yrru gan Harley Whiteman, 19, ar Heol Aberhonddu yn Hirwaun ar 29 Chwefror.

Fe welodd Llys y Goron Merthyr Tydfil luniau CCTV o Whiteman yn "teithio ar gyflymder" drwy'r pentref, ac yn osgoi taro cerbyd arall o drwch blewyn, yn fuan cyn y gwrthdrawiad.

Clywodd y llys fod Whiteman wedi ffoi o'r safle, cyn dychwelyd ac ymddwyn yn sarhaus cyn cael ei arestio.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kaylan Hippsley dridiau ar ôl cael ei daro gan gar ar 29 Chwefror

Yn ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr Jeremy Jenkins fod Kaylan wedi cael ei ladd wrth i Whiteman "anwybyddu rheolau'r ffordd", a bod ei ymddygiad wedi bod yn "wrthun a dienaid".

Clywodd y llys bod Whiteman wedi bod yn yfed ac wedi cymryd cocên ar ddiwrnod y gwrthdrawiad, cyn gyrru gyda dau o'i ffrindiau o amgylch ardal Aberdâr a Hirwaun.

Yn fuan cyn y digwyddiad, fe ddangosodd lluniau CCTV y car Ford Fiesta yn gyrru'n wyllt yng nghanol Hirwaun - ardal gydag uchafswm cyflymder o 20mya.

Roedd Kaylan Hippsley yn cerdded gyda thri o'i ffrindiau at gyfeiriad y ganolfan ieuenctid.

Clywodd y llys bod Whiteman wedi troi ei gar er mwyn osgoi taro car arall, a achosodd iddo daro'r palmant a Kaylan, gan ei daflu i'r awyr.

Dywedodd Julia Cox, a oedd yn erlyn: "Ar ôl taro Kaylan, fe wnaeth Harley Whiteman yrru i ffwrdd ar gyflymder, gyda difrod sylweddol i'w gar".

Er i Kaylan gael ei drin ar y safle gan y cyhoedd, bu farw dridiau'n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Aberhonddu yn Hirwaun

Clywodd y llys ddatganiadau gan rai o deulu Kaylan, gan gynnwys ei chwaer, Olivia.

Fe ddisgrifiodd yr "arswyd" y mae marwolaeth ei brawd wedi achosi'r teulu.

Dywedodd ei bod wedi bod yn "bryderus ac yn isel" ers colli ei brawd, ac wedi "treulio'r rhan fwyaf o fy amser yn fy nagrau".

"Mae rhywun ar fai ac mae rhywun yn gyfrifol, sy'n gwneud y sefyllfa yn waeth," meddai.

Dywedodd James Hartson, oedd yn amddiffyn, er bod Whiteman wedi ymddwyn yn "warthus" wedi'r gwrthdrawiad, fod hynny "ddim yn cydfynd â'i gymeriad".

Roedd Whiteman wedi pledio'n euog yn gynharach yn y mis, ac fe gafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd a naw mis mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc.

Pynciau Cysylltiedig