Beth petai Caernarfon yn brifddinas Cymru?

Castell Caernarfon a Senedd Ffynhonnell y llun, BBC/Getty
Disgrifiad o’r llun,

A fyddai'n rhaid newid geiriau 'Heno yn yr Anglesey' petai Caernarfon wedi ennill statws prifddinas?

  • Cyhoeddwyd

Ganrif yn ôl fe ddaeth Caerdydd yn geffyl blaen yn y ras i ddod yn brifddinas Cymru... a Chaernarfon yn ail.

Mewn pol piniwn o awdurdodau lleol yn 1924, fe enillodd Caerdydd ychydig o dan hanner y pleidleisiau - gyda chwarter yn mynd i Gaernarfon.

Dros y 31 mlynedd nesaf roedd y ddau leoliad - ac Aberystwyth a Llandrindod - yn dadlau eu hachos tan i'r cwestiwn gael ei setlo unwaith ac am byth yn 1955.

Ond sut le fyddai tre'r Cofis erbyn heddiw petai'r canlyniad wedi mynd o'u plaid? Un o hogiau Caernarfon, yr actor a digrifwr Dewi Rhys, sy'n pendroni.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dewi Rhys, un o frodorion Dre

Piazza Y Maes

Dechreuwn y daith yng nghanol y dref, sef Y Maes.

Byddai fan hyn wedi ei ddatblygu ar ffurf piazza fel y gwelir yn ninasoedd yr Eidal, gyda stondinau chwaethus o amgylch, i gyd yng nghysgod y castell na fyddai wedi newid dim decini.

Disgrifiad o’r llun,

Y Maes, lle mae ambell i gaffi gyda byrddau tu allan - ond mae angen mwy (a haul) i fod yn debyg i'r Eidal

Byddai Pont yr Aber sy’n mynd dros yr Afon Seiont yn un arbennig ac yn ein harwain tuag at Y Foryd sy’n llawn o enghreifftiau natur gwyllt a môr.

Byddai llwybrau addas yn mynd yr holl ffordd i Ddinas Dinlle a fyddai wedi cael datblygiadau cyfoes ar gyfer lan y môr a thraeth bendigedig.

Disgrifiad o’r llun,

Gwaith cynnal a chadw ar Bont yr Aber, ond sut bont fyddai ym 'mhrifddinas Caernarfon'?

Yn ôl yn y dref byddai adeiladau Cyngor Gwynedd yn yr un safle ond yn fwy wrth gwrs, a gerllaw byddai’r strydoedd cul o fewn waliau’r dref yn dal i fodoli fel heddiw.

Wrth gwrs ar raddfa mwy byddai’r harbwr a’r doc wedi datblygu gyda chymorth buddsoddiadau rhyngwladol, gan atgoffa’r haneswyr fod Caernarfon yn safle morwrol pwysig iawn yn y canrifoedd a fu.

Disgrifiad o’r llun,

"Pam na chaf i fynd fel pawb i forio?" Fel yn y gân werin adnabyddus, a fyddai mwy o hogiau'r Dre heddiw yn gobeithio am waith ar y môr gyda buddsoddiad yn y 'brifddinas'?

Gorsaf reilffordd Caernarfon

Ger y doc byddai’r Senedd yn cymryd ei le yn hytrach na’r fflatiau erchyll sydd yna ar hyn o bryd.

Wrth ymyl mae’r Galeri - fyddai'n llawn bwrlwm diwylliannol gyda swyddfa Cyngor y Celfyddydau, canolfan cyfryngau ac arddangosfeydd o bob math.

Disgrifiad o’r llun,

Doc Fictoria, gyda'r Galeri ar y dde a fflatiau ar y chwith - neu lleoliad y Senedd yn ôl dymuniad Dewi Rhys

Cerddwn ymlaen o fan hyn at y maes parcio anferth a fyddai’n gartref i’r bysiau lleol a theithiol, yna at yr orsaf rheilffordd ger Ffordd Bangor, rheilffordd wedi ei datblygu gyda llinell yn mynd ar hyd yr arfordir i’r dwyrain yn ogystal â llinell i’r gorllewin a’r de.

Ymlaen ar hyd glannau’r Fenai tuag at Y Felinheli ac yno byddai rhes o adeiladau bychain gyda chaffis, siopau bach annibynnol, bariau yn ogystal â chanolfan awyr agored Plas Menai ar gyfer y rhwyfwyr a’r hwylwyr.

Felly, dyna orllewin a dwyrain Caernarfon wedi ei gyflawni, llawn amrywiaeth.

Tua’r de byddai rhaid ehangu pentrefi Bethel, Llanrug, Groeslon a Phenygroes. Cymysgfa o ardaloedd preswyl, stadau diwydiannol a stadiwm pêl-droed gwerth chweil i’r Caneris! Siŵr byddai tîm Caernarfon wedi esgyn i un o’r cynghreiriau cenedlaethol a gemau cenedlaethol yn cael eu cynnal ar yr Oval.

Disgrifiad o’r llun,

Ai fel hyn fyddai safle'r Oval petai Caernarfon wedi dod yn brifddinas - neu gormod o risg o ddenu gemau rygbi?

Cofiwch bod amryw o chwaraewyr enwog yn cadw tai ochrau Sir Fôn a Phen Llŷn. Wyddoch chi fod gan Alex Ferguson dŷ ar lannau’r Fenai ger Biwmares?

Mae’n boenus imi gyfaddef ond gwell cadw’r rygbi yn y de, gan na fyddai’r Valley Commandos yn fodlon teithio o’u milltir sgwâr!

Wrth gwrs, ni allwn anghofio Yr Wyddfa! Byddai Llanberis yn cael mynediad gwell na’r hyn sydd yn cael ei gynnig ar hyn o bryd gyda llinell brys yn cludo teithwyr o Gaernarfon a Bangor i Lanberis at fynyddoedd Eryri. Dylai hynny ddod â phroblem parcio ceir yn Eryri i ben!

Yn ôl at Fangor a dylai’r brifysgol hynafol aros yn ei lle. Felly hefyd Ysbyty Gwynedd, er byddai colegau ychwanegol ac ysbytai cymunedol ar gael i’r cyhoedd yn ardal Caernarfon.

Mae hyn i gyd yn dystiolaeth sy’n dangos pam efallai y dylai Caernarfon wedi cael ei ddewis fel prifddinas Cymru.

Miliwn o siaradwyr Cymraeg yn hawdd!

Gwyddwn fod Caernarfon a’r ardal eang, yn llawn o siaradwyr Cymraeg. Pan ddaw pobl i fyw yma mae’n ddisgwyliad iddynt ddysgu’r iaith, yn enwedig os ydynt am dderbyn swyddi yn lleol, ac wrth gwrs mae’r ysgolion yn gwbl ddwyieithog.

Ychydig mwy o bwyslais ar bwysigrwydd yr iaith na 'promoting Welshness' chwedl Caerdydd pan yn gwneud cais am fod yn brifddinas ‘slawer dydd!

Byddai ein capeli dal ar agor oherwydd nifer y boblogaeth, Cymraeg fyddai iaith y stryd fel ag y mae rŵan, sy’n hollol wahanol i Gaerdydd, gan y medrwch gerdded o gwmpas y ddinas drwy’r dydd heb glywed yr un gair o Gymraeg!

Ystyriwch hyn - gyda Caernarfon yn brifddinas byddai'r targed o un filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi ei gyrraedd ers blynyddoedd!

Disgrifiad o’r llun,

Rhai pethau na fyddai'n newid yn ôl Dewi Rhys... y strydoedd cul, y castell a'r Cofis

A beth am frodorion y dre’ - Y Cofis? A fyddai statws prifddinas wedi newid pethau iddynt? Go brin, y Cofis a fyddai’n newid y brifddinas gyda’u personoliaethau unigryw a hoffus.

Mae ymwelwyr o dramor a dros y ffin yn cyfeirio atom fel annwyl a chymwynasgar, efallai ddim ar y cychwyn gan ein bod yn tueddu o fod yn amheus a thawel tan ddaw ice breaker o rywle gan adael pawb yn hapus a bodlon am weddill yr ymweliad!

Ta waeth am brifddinas - mae gan y ddau le ei rinweddau ac ein lle ni yw cofleidio a derbyn hynny!

O.N. Reit hoff o Aberystwyth hefyd!!

Pynciau Cysylltiedig