Pencampwriaeth Snwcer y Byd: Jak Jones ar ei hôl hi

Jak JonesFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i Jak Jones (dde) chwarae yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Jak Jones yn wynebu Kyren Wilson ar ail ddiwrnod rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn y Crucible yn Sheffield.

Wrth i'r chwarae ddod i ben nos Sul, Kyren Wilson oedd ar y blaen o 11-6.

Roedd gan Wilson fantais o 7-1 ar un adeg, ond fe lwyddodd Jones i ennill pump o'r naw ffrâm nesaf.

Roedd y sesiwn gyntaf brynhawn Llun yn hynod o agos, gyda Jones yn lleihau'r bwlch i 13-10, cyn i Wilson ennill dwy ffram hollbwysig yn olynol i'w gwneud hi'n 15-10.

Bydd y sesiwn olaf yn dechrau am 19:00.

Wedi diwedd y sesiwn hwyr nos Sul, dywedodd Jak Jones: "Dwi i wedi blino'n lân.

"Os fyswn i wedi cael noson dda o gwsg neithiwr mi alle pethe fod yn wahanol ond dyna ni, dwi dal yn y gêm."

Dywedodd Wilson: "Fe chwaraeodd Jak yn dda iawn heno. Nid y sgôr ydi popeth, mae'n dibynnu ar sut mae chwaraewr yn ennill y ffrâm ac roedd 'na lot o densiwn yna."

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Jak Jones yn chwarae ar ddiwrnod cyntaf y rownd derfynol

Fe wnaeth Jak Jones gyrraedd rownd derfynol y bencampwriaeth ar ôl curo Stuart Bingham 17-12 nos Sadwrn.

Y cyn-bencampwr Bingham oedd y ffefryn, gyda Jones yn rhif 44 ar restr detholion y byd.

Ond fe lwyddodd y gŵr o Gwmbrân i ddal ei afael ar ei fantais yn y sesiwn olaf a sicrhau ei le yn y ffeinal.

Os yn fuddugol, Jones fydd y chwaraewr cyntaf i ddod yn bencampwr byd ar ôl dod drwy'r rowndiau rhagbrofol ers Shaun Murphy yn 2005.

Y Cymro diwethaf i wneud hynny oedd Terry Griffiths yn 1979.

Pynciau Cysylltiedig