Dynes o Wrecsam wedi boddi ar ôl ceisio achub ci o afon

Afon ClywedogFfynhonnell y llun, Geoff Evans/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gail Lloyd ar ôl boddi wrth geisio achub ei chi o'r Afon Clywedog

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth dyn o Wrecsam geisio tynnu ei wraig allan o afon ar ôl iddi fynd fewn i'r dŵr i nôl ei chi, clywodd cwest yn Rhuthun.

Roedd yn rhaid i Martin Lloyd gael ei dynnu allan o'r afon gan bobl oedd yn ymyl ond methiant fu'r ymdrechion i adfywio ei wraig, Gail.

Digwyddodd y drasiedi wrth i’r cwpl fynd â’u dau gi am dro ym Mharc Erddig ar gyrion Wrecsam ar 9 Rhagfyr 2023.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y cwest, dywedodd Mr Lloyd, o Stryd Bury, Wrecsam, ei fod yn cerdded o flaen ei wraig ar lwybr troed ar hyd Afon Clywedog oedd yn llifo'n gyflym.

Gwelodd fod ei wraig wedi mynd i mewn i'r afon i geisio cyrraedd eu labrador, Cadwy, a oedd mewn trafferthion yn y dŵr.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cywodd y cwest yn Rhuthun fod Gail Lloyd wedi boddi

“Roeddwn i’n galw ‘Tyrd allan, tyrd allan’,” meddai.

Aeth Mr Lloyd i'r dŵr ond “doeddwn i ddim yn gallu ei chyrraedd hi", esboniodd.

Dywedodd William Cossins - a oedd yn cymryd rhan mewn parkrun ar y pryd - ei fod wedi clywed rhywun yn sgrechian ac aeth i helpu gyda phobl eraill.

Cafodd Mr Lloyd ei dynnu allan o'r afon gyda rhaff o gwmpas ei ddwrn.

“Roedd yn ormod o risg mynd i’r dŵr fy hun,” meddai Mr Cossins.

'Amgylchiadau trasig dros ben'

Cafodd Mrs Lloyd driniaeth CPR gan aelod o'r cyhoedd wedi iddi gael ei thynnu o'r afon ond fe wnaeth y gwasanaethau brys gyhoeddi ei bod wedi marw yn y fan a'r lle ar ôl iddyn nhw gyrraedd.

Cofnododd y cwest ei bod wedi marw'n ddamweiniol a'i bod wedi boddi wedi iddi fynd i'r dŵr.

Dywedodd y crwner: “Mae’r amgylchiadau’n drasig dros ben. Fe gollodd Gail Lloyd ei bywyd wedi iddi geisio achub ei chi."