'Dim mwy o arian i brifysgolion' - Llywodraeth Cymru

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu torri 400 o swyddi academaidd llawn amser
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg Uwch yn dweud na fydd arian ychwanegol i brifysgolion Cymru.
Daw'r newyddion yn dilyn cyhoeddiad Prifysgol Caerdydd am gynllun posib i dorri 400 o swyddi, gyda chynigion eraill i gau rhai pynciau ac adrannau yn llwyr, ac uno adrannau eraill.
Yn ôl Vikki Howells AS mater i Brifysgolion yw cydbwyso'r llyfrau.
Dywedodd hefyd ei bod yn siarad â Llywodraeth y DU am sut mae'r sector yn cael ei ariannu.
Roedd yna brotest ger y Brifysgol ddydd Sul gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn gwrthwynebu'r posibilrwydd o gau'r adran gerdd.
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
Wrth siarad â BBC Politics Wales, dywedodd y gweinidog fod y sector addysg uwch yn "mynd trwy gyfnod heriol iawn yn ariannol… gyda'r mwyafrif helaeth ohonynt y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru."
Aeth ymlaen i ddweud mai mater i sefydliadau oedd "cydbwyso'r llyfrau" er ei bod hefyd wedi dweud bod y brifysgol "ar y cyfan yn agored i archwilio opsiynau eraill."
Er hyn, fe wnaeth y gweinidog gadarnhau na fyddai arian ychwanegol i Brifysgolion "oni bai ein bod yn edrych i dorri'n ôl o feysydd eraill fel y Gwasanaeth Iechyd, addysg, y gwasanaethau cyhoeddus rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw."
'Gobeithio osgoi diswyddo'
Mae'r Llywodraeth i wedi rhoi £10 miliwn ychwanegol ar ôl cyllideb yr Hydref i fynd a'r cyllid i £200 miliwn, meddai.
Esboniodd mai'r sefyllfa waethaf yw'r 400 o swyddi", medd y gweinidog.

Mae Vikki Howells AS wedi dweud mai mater i Brifysgolion yw cydbwyso'r llyfrau
Yn ôl Vikki Howells, mae Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Wendy Larner, yn gobeithio bydd y ffigwr yn "sylweddol is 'na hynny".
"Mae hi wir yn gobeithio osgoi diswyddo gorfodol ond byddwn yn annog yr holl staff i weithio gyda'u hundebau", meddai.
Fe gafodd y staff y Brifysgol wybod am y newidiadau arfaethedig ddydd Mawrth, ac mae'r brifysgol wedi lansio ymgynghoriad fydd yn para 90 diwrnod.
Er hyn, fe wnaeth hefyd gydnabod ei bod yn edrych ar ddiwygio cyllid addysg uwch ac edrych ar faterion fel mudo, myfyrwyr rhyngwladol, a hefyd rheolau Trysorlys EM sy'n gyfrifol am drefniadau cyllid myfyrwyr.
Dywedodd ei bod wedi bod yn siarad â llywodraeth y DU am hynny ac wedi cael sgwrs "gadarnhaol iawn".
"Rwyf wedi cael sgwrs gadarnhaol iawn gyda fy nghymar yn y DU, y Farwnes Jacqui Smith, ac mae cyfarfod arall wedi'i drefnu gennyf yr wythnos nesaf.
"Felly mae hwn, i mi, yn gwbl allweddol i greu atebion cynaliadwy hirdymor ac rwy'n benderfynol o roi'r anghenion Cymru ar frig y'ngwaith."
'Cyhoeddiad yn groes i'w dyletswydd'

Dywedodd Cefin Campbell AS bod Llywodraeth Cymru yn mynd groes i'w dyletswydd trwy beidio â chamu i'r adwy i gynorthwyo prifysgolion
Yn ôl Cefin Campbell AS, llefarydd Plaid Cymru ar addysg, mae sector prifysgolion yn wynebu "argyfwng difrodol".
Dywedodd bod y Llywodraeth yn "chwifio'r faner wen a gwylio cyrsiau allweddol, fel nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd yn diflannu tra bod cannoedd o staff yn wynebu colli eu swyddi."
"Mae'r sector prifysgolion yn chwarae rhan enfawr mewn unrhyw adfywiad economaidd wrth symud ymlaen - mewn arloesi, mewn ymchwil.
"Mae gwrthodiad Llywodraeth Cymru i gamu i'r adwy i gynorthwyo prifysgolion yn groes i'w dyletswydd.
Ychwanegodd hefyd bod cynllun Seren, sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru yn "annog myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru i astudio ym Mhrifysgolion Lloegr.
"Mae'n rhaid i ni gadw'r talent yng Nghymru i yrru'r economi a gwella gwasanaethau cyhoeddus."
'Effaith am flynyddoedd'
Roedd myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr ymysg grŵp o ryw 30 o bobl a berfformiodd yn gerddorol y tu allan i brif adeilad y brifysgol ddydd Sul i brotestio yn erbyn y posibilrwydd o gau'r adran gerddoriaeth.
Mae cerddoriaeth yn un o'r pynciau a fydd o bosib yn cael eu colli, yn ogystal â nyrsio ac ieithoedd modern.
Dywedodd Hannah Willman, myfyriwr sy'n astudio gradd meistr, bod cerddoriaeth yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant Cymru.
"Mae'r penderfyniad yn hollol siomedig," meddai.

Hannah Willman a Iori Hawgen - dau o'r protestwyr sy'n poeni ynghylch y posibilrwydd o gau adran gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd
Mae Iori Hawgen yn gerddor proffesiynol, a dywedodd ei fod yno i gefnogi'r myfyrwyr.
"Bydd cyfleoedd yn y byd cerddoriaeth yn dwindlan," meddai, "a bydd ieuenctid ddim yn dod trwyddo a bydd safon cerddoriaeth yng Nghymru yn mynd lawr a lawr.
"Mae fe am gael effaith am flynyddoedd.
Os ydyn ni'n torri fe nawr bydd e yn rili anodd i ddod â'r safon yn ôl, sy'n poeni fi."