Dyffryn Aman: Rhyddhau dau athro a disgybl o'r ysbyty

Swyddog heddlu ger yr ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion tan ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae dau athro ac un disgybl yn ei arddegau a gafodd eu hanafu mewn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Cafodd y tri eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu ar dir yr ysgol fore Mercher.

Mae Heddlu Dyfed-Powys bellach wedi cadarnhau bod y tri wedi cael gadael yr ysbyty ar ôl derbyn triniaeth am anafiadau gafodd eu hachosi gan gyllell.

Cafodd merch yn ei harddegau ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi'r digwyddiad, ac mae hi'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans bod yr heddlu wedi'u galw i'r ysgol am 11:20 ddydd Mercher.

"Fe ddaeth y gwasanaethau brys yn syth a bu'n rhaid cau'r ysgol er mwyn sicrhau diogelwch pawb ar y safle," meddai.

Cafodd dau athro ac un disgybl yn ei arddegau eu cludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad gydag anafiadau oedd ddim yn peryglu bywyd.

Mae BBC Cymru yn deall mai Fiona Elias - pennaeth blwyddyn saith yr ysgol - a Liz Hopkin yw'r ddwy athrawes a gafodd eu hanafu.

Arestio llanc

Yn y cyfamser, mae'r heddlu hefyd wedi cadarnhau y cafodd llanc yn ei arddegau ei arestio yn Rhydaman dros nos ar amheuaeth o wneud bygythiadau oedd yn cyfeirio at y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd gwarant ei gweithredu yng nghartref y bachgen yn ardal Cross Hands, ac mae gwn BB bellach ym meddiant yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n ymchwilio i unrhyw gysylltiad posib gyda'r digwyddiad yn Rhydaman ddydd Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Mae BBC Cymru ar ddeall mai un o'r athrawon a gafodd ei hanafu yw Fiona Elias

Ar un adeg roedd cannoedd o rieni yn disgwyl am eu plant y tu allan i giatiau’r ysgol yn ceisio cael mwy o wybodaeth.

Fe gafodd y disgyblion eu cadw mewn dosbarthiadau, a'u rhyddhau o'r ysgol mewn grwpiau tua 15:20.

Fe gadarnhaodd yr heddlu bod merch yn ei harddegau wedi cael ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio a'i bod yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd swyddogion hefyd bod cyllell wedi'i chanfod ac y bydd yn cael ei defnyddio fel rhan o'r dystiolaeth.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darrel Campbell wedi cael ei ddisgrifio fel "arwr" wedi'r digwyddiad

Dywedodd yr aelod lleol o'r Senedd, Cefin Campbell, fod ei frawd wedi "ceisio atal y ferch oedd gyda'r gyllell".

Fe wnaeth Darrel Campbell ymateb "yn reddfol", meddai, a dywedodd ei fod wedi "gwneud yr hyn y byddai y rhan fwyaf o bobl yn ei wneud pan fod bywyd rhywun mewn peryg".

Ychwanegodd Cefin Cambell AS ei fod yn "falch iawn o weithredoedd ei frawd" ond bod Darrel yn casáu yr holl sylw sydd wedi dod yn sgil y digwyddiad.

Soniodd ei fod o wedi methu â chysylltu gyda'i frawd am gyfnod, a bod y diffyg gwybodaeth ar y pryd wedi ei ddychryn.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Uwch-arolygydd Ross Evans wedi annog pobl i beidio â rhannu deunydd am y digwyddiad ar-lein

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad y byddai presenoldeb swyddogion yn parhau ar dir yr ysgol am y tro, fel sydd i'w ddisgwyl yn sgil digwyddiad mor ddifrifol â hyn.

"Bydd swyddogion yn chwilio am dystiolaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad, tra bod timau arbenigol yn dadansoddi unrhyw wybodaeth sy'n cael ei gyflwyno ar-lein.

"Ry'n ni'n deall y pryder yn y gymuned wrth i bobl geisio prosesu'r digwyddiad, ac ry'n ni'n annog unrhyw un gafodd eu heffeithio i chwilio am gymorth."

Mae'r heddlu hefyd wedi gofyn i bobl i beidio â rhannu fideos, lluniau neu wybodaeth all achosi trallod pellach i ddisgyblion neu rieni.

'Diwrnod anodd iawn'

Mae Prifathro Ysgol Dyffryn Aman yn dweud ei fod yn "falch" o'r ffordd wnaeth disgyblion ymateb i'r digwyddiad.

Mewn datganiad ar wefan yr ysgol nos Fercher, dywedodd James Durbridge fod "heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd iawn i ni gyd yn yr ysgol."

"Mae fy meddyliau gyda'r tri unigolyn a'u teuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad".

Ychwanegodd mai blaenoriaeth yr ysgol nawr oedd i "sicrhau diogelwch disgyblion a staff tra'n delio â'r sefyllfa ac i gyfathrebu â'r rheiny a gafodd eu heffeithio yn uniongyrchol."

"Hoffwn ganmol y staff a'r disgyblion am eu hymateb aeddfed yn ystod y cyfnod clo heddiw."

Mae'r ysgol ar gau i ddisgyblion tan ddydd Llun, ond fe ddywedodd Mr Durbridge y byddai cefnogaeth dal ar gael i unrhyw un sydd ei angen.