'Argyfwng gwirfoddolwyr i helpu pobl â'u costau byw'

Lynne Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith gwirfoddolwyr yn gwbl allweddol, medd Lynne Thomas - rheolwr prosiect Gwirfoddolwyr Cymunedol Y Sblot, Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

"Ry'n ni yn trio gneud bywydau pobl yn well. Mae y byd yn lle trist ar y foment, yn llawn pobl sydd yn poeni ac yn methu bwydo eu hunain neu methu cael y gwres ymlaen.

"Ry'n ni yn trio rhoi bwyd yn boliau pobl a gwên ar eu hwynebau, ond, ma' mwy i fywyd na chael bwyd a bod yn dwym - ma' rhaid i ni joio hefyd ac edrych 'mla'n at bethau."

Dyna yw gweledigaeth Lynne Thomas - rheolwr prosiect Gwirfoddolwyr Cymunedol Y Sblot, Caerdydd.

Mae'r elusen yn un o gannoedd o grwpiau gwirfoddol ac elusennau ar draws Cymru sy'n gwneud gwaith allweddol yn cefnogi eu cymunedau wrth i gostau byw achosi caledi i deuluoedd.

Maen nhw'n dibynnu ar wirfoddolwyr i'w cynorthwyo gyda'r gwaith, ond wrth i'r her o helpu gynyddu mae yna rybudd fod Cymru'n wynebu'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "argyfwng gwirfoddolwyr".

Yn ôl adroddiad diweddar gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru (CGGC) roedd90% o gynrychiolwyr mudiadau gwirfoddol yn dweud eu bod yn cael trafferth recriwtio, a thros 80% yn ei chael hi'n anodd i gadw gwirfoddolwyr.

Y rhwystr mwyaf oedd prinder amser, a diffyg ymwybyddiaeth o'r cyfleon sydd ar gael.

Dywed Lynne Thomas fod gwirfoddolwyr yn allweddol i'w gwaith yn Y Sblot a'u bod yn lwcus bod 30 o wirfoddolwyr yn dod i mewn bob wythnos i baratoi te, glanhau, casglu bwyd o siopau lleol a choginio.

"Dim ond dau o staff sy' gan yr elusen ac ry'n ni yn rhan amser felly mae'n rhaid dibynnu ar wirfoddolwyr," meddai.

"Ond y peth yw, y mae y gwirfoddolwyr yn cael rhwbeth da o'r profiad hefyd. Maen nhw yn mynd i ffwrdd o fan hyn gyda parch am beth maen nhw wedi 'neud."

'Mae pobl isie cyfrannu'

O ddydd i ddydd mae'r elusen yn cynnig bwyd, cwmni a chefnogaeth i bobl - a gweithgareddau amrywiol, gan gynnwys clwb brecwast wythnosol sy'n helpu pobl sydd ar incwm isel neu o gefndir difreintiedig.

Fe fydd rhwng 40 a 80 o bobl yn dod i'r clwb brecwast bob bore Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Katherine Jones yw un o'r gwirfoddolwyr yn Y Sblot

Mae'n fore prysur, ac yn ôl gwirfoddolwyr fel Katherine Jones mae'r clwb yn bwysig eithriadol i deuluoedd lleol - am nifer o resymau.

"Mae rhai pobl just yn dod 'ma achos maen nhw isie cyfrannu. Maen nhw ishe bod yn rhan o’r gymuned ac maen nhw yn dod yma i roi.

"Mae rhai arall wedyn sydd yn dod yma achos bod nhw heb fod mas lot a nawr mae yna gyfle yma. Maen nhw gallu dod mas a siarad a cwrdd â phobl arall yn eu cymuned.

"Ond, wrth gwrs mae 'na angen o fewn y gymuned yma hefyd felly ma' cael bag llawn o fwyd i fynd o 'ma a brecwast am bedair punt yn gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw, dwi’n meddwl."

'Dwi'n rili mwynhau dod yma'

Mae Eluned Williams yn byw yn Y Sblot ac yn mwynhau dod i'r ganolfan - i'r clwb brecwast - gyda'i babi bach.

"Dwi rili mwynhau dod yma i gymdeithasu ac i gwrdd â phobol o wahanol oedrannau, i gael bwyd a rh'wle gwych i'r plant chwar'e gan bo ni yn byw rownd y gornel," dywedodd.

Mae'r ganolfan yn Y Sblot yn rhoi pwyslais mawr ar helpu i ddosbarthu bwyd da yn rhad i'r gymuned, ac yn ôl Eluned Williams mae hynny'n bwysig pan fo teuluoedd yn wynebu heriau oherwydd costau byw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Williams yn gwerthfawrogi gwasanaethau'r ganolfan

"Dwi'n meddwl ei bod hi yn anodd gweithio allan ble i wario arian a sut i wario arian mewn ffordd effeithiol," dywedodd.

"'Dwi yn prynu dillad vintage i'r plant ac yn fwy tebygol o gael bwyd o lefydd fel hyn.

"Mae y syniad o atal bwyd rhag mynd i wastraff yn apelio ata'i hefyd er mwyn helpu y byd a helpu fy hunan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae degau o wirfoddolwyr yn helpu bob wythnos yn Y Sblot

Tra bod gwerthfawrogiad yn Y Sblot eu bod yn lwcus o gael cefnogaeth degau o wirfoddolwyr, mae nifer fawr o elusennau eraill ar draws Cymru'n wynebu problemau denu pobl i'w helpu.

Dywed Sefydliad Cymunedol Cymru, sy'n cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol gyda chyllid, bod angen i elusennau ddysgu o'i gilydd a ffurfio mwy o bartneriaethau.

"Mae'n amser cydweithio i greu trydydd sector sy'n fwy cydlynol, sy'n gwerthfawrogi gwaith eraill ac sy'n croesawu cyfleoedd i gydweithio yng Nghymru," ychwanegodd.

'Edrych tua'r dyfodol'

Mae Lynne Thomas a'i thîm yn Y Sblot eisoes wedi dechrau cydweithio ag elusennau lleol er mwyn cael bwyd ffres i ddosbarthu ymysg eu cleientiaid.

Er yr heriau, dywed fod rhaid cario ymlaen, cynllunio ac edrych i'r dyfodol.

"Ar y funud ry'n ni yn bwriadu creu clwb gwaith cartref i bobol ifanc gael rhywle tawel saff a thwym i neud eu gwaith cartref.

"Ni ishe helpu ein pobl ifanc i osgoi sefyllfaoedd tebyg i be mae oedolion yn y gymuned yma yn wynebu, lle ma' nhw methu fforddio rhoi y gwres 'mla'n yn y tŷ, dim bwyd yn y cypyrddau, mewn dyled - does dim arian gyda nhw, ac ma' nhw wir yn desperate."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Richard Williams, prif weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru, mae yna wersi i'w dysgu o'r hyn sy'n digwydd yn Y Sblot

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru'n cefnogi'r fenter yn Y Sblot.

Dywedodd y prif weithredwr, Richard Williams: "Mae gwirfoddolwyr fan hyn yn gweithio yn rili galed a hebddyn nhw fydde y lle 'ma ddim yn bodoli.

"Ma' nhw yn lwcus fan hyn. Ma' angen mwy o wirfoddolwyr tebyg ar draws Cymru gyfan.

"Ers Covid mae newid 'di bod yn y ffordd ma' pobol yn gwirfoddoli. Mae nifer o bobol hynach oedd yn arfer gwirfoddoli bellach wedi stopio.

"Mae angen felly i ni newid y ffordd ry'n ni yn siarad am wirfoddoli a chynnig ffyrdd gwahanol o 'neud.

"Ond hyd yn oed mewn lle fel hyn sydd yn llwyddo ma' anghenion ychwanegol lle ma' angen mwy o wirfoddolwyr a chefnogaeth fan hyn hefyd."

Pynciau Cysylltiedig