Rhyfel y Falklands: Dim bai ar gatrawd o'r fyddin

Maldwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Maldwyn Jones yn aelod o'r Gwarchodlu Cymreig

  • Cyhoeddwyd

Doedd dim bai ar gatrawd o'r fyddin pan gafodd llong y Sir Galahad ei bomio yn ystod Rhyfel y Falklands, yn ôl dogfennau sydd wedi eu cyhoeddi am y tro cyntaf.

Bu farw 48 o bobl pan gafodd y llong gyflenwi, oedd yn cario milwyr Prydeinig, ei tharo gan awyrlu'r Ariannin yn 1982.

Roedd 32 o'r rheiny'n aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig, a chafodd yr uned ei beio am ddryswch, oedi, ac am beidio gadael y llong.

Ond mae dogfennau cyfrinachol sydd wedi dod i law BBC Cymru bellach wedi rhyddhau'r gwarchodlu o unrhyw fai.

"Dan ni'n cael bai ar gam ers 42 o flynyddoedd... bod ni ddim digon ffit, bod ni heb baratoi digon a bod ni ddim digon da i fod yna felly mae'r gwir allan yna rŵan," meddai Maldwyn Jones, fu'n aelod o'r Gwarchodlu Cymreig ac oedd ar fwrdd y llong.

Rhyfel y Falklands

Yn 1982, fe aeth y Deyrnas Unedig a'r Ariannin i ryfel oherwydd anghytuno ynghylch tiriogaeth tramor Prydain sef y Malvinas yn yr Ariannin, neu Ynysoedd y Falklands.

Bu farw 255 o Brydain, tri o bobl yr ynysoedd a 649 o aelodau byddin Yr Ariannin.

Cafodd mwy o filwyr Prydeinig eu lladd ym momio Sir Galahad ar 8 Mehefin 8 nag mewn unrhyw ddigwyddiad arall yn ystod y rhyfel.

Cafodd rhai dogfennau eu cyhoeddi'r llynedd ac roedden nhw'n datgelu dryswch, oedi a cholli cyfleoedd i symud y milwyr i le mwy diogel.

Mae dogfennau bellach sydd wedi bod yn gyfrinachol am dros 40 mlynedd yn datgelu - er nad oedd y cwch yn gallu amddiffyn ei hun - na chafodd y milwyr orchymyn i'w gadael.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Maldwyn Jones fod yn "rhaid i ni gael tystiolaeth a dydi'r dystiolaeth ddim ganddo ni ar y funud"

Cafodd ymchwiliad ei gynnal yn breifat gan y Llynges Frenhinol i edrych ar y digwyddiad a bomio ei chwaer gwch Sir Tristram - lle bu farw wyth o bobl - a nawr daw rhai o'r casgliadau'n gyhoeddus.

Maen nhw'n dangos na chafodd "unrhyw orchymyn uniongyrchol ei roi" i'r 352 o aelodau'r Gwarchodlu Cymreig i adael.

Mae'r weinyddiaeth amddiffyn hefyd yn dweud nad ydyn nhw "mewn unrhyw ffordd" yn eu beio am y marwolaethau'r diwrnod hwnnw.

''Da ni wedi cael ein rhyddhau o fai'

"Un peth sy'n sefyll allan i fi ac sy'n bwysig i ni ydi 'da ni wedi cael ein rhyddhau o fai," meddai Mr Jones.

Dywedodd bod "lot o gamgymeriadau" wedi eu gwneud gan bobl eraill yn y digwyddiad a bod 'na rai wedi "dweud celwyddau".

Ychwanegodd: "Mae ganddo ni wybodaeth ond profi fo ydi'r peth. Mae'n rhaid i ni gael tystiolaeth a dydi'r dystiolaeth ddim ganddo ni ar y funud. Mae'r documents sy'n retracted yn reit drwm.

"Fel 'dan ni'n deall, doedd dim rhaid i ni fod yno'r diwrnod yna a doedd dim rhaid i'r hogia'i gyd gael eu lladd."

Roedd casgliadau'r ymchwiliad gan y llynges i fod i aros yn gyfrinachol tan 2065.

Ond mae'r dogfennau - sy'n 62 o dudalennau - wedi eu cyhoeddi yn dilyn ymgyrchu gan gyn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig, eu teuluoedd ac Aelodau Seneddol.

Roedd cyn arweinydd y blaid Geidwadol Syr Iain Duncan Smith ymysg y rhai oedd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas i gyhoeddi'r dogfennau ac i ryddhau'r milwyr o fai.

Roedd Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Casnewydd Jessica Morden hefyd yn ymgyrchu i gael gweld y dogfennau.

Dywedodd bod hyn yn "ryddhad enfawr" i'r cyn milwyr a'r teuluoedd a gollodd aelodau o'u teulu.

Yn ôl Mr Jones, "dydi'r rhyfel ddim drosodd eto i ni...da ni dal i gwffio i gael mwy o wybodaeth allan".

Pynciau Cysylltiedig