Ystyried cosbi byrddau iechyd am berfformiad gwael

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r sefyllfa o ran rhestrau aros yng Nghymru "ddim yn ddigon da", meddai Ms Morgan

  • Cyhoeddwyd

Fe all byrddau iechyd wynebu sancsiynau os nad ydyn nhw'n gwneud digon i fynd i'r afael â rhestrau aros, yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru.

Fe wnaeth Eluned Morgan gydnabod nad yw'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn perfformio "yn ddigon da", ac mai gwella'r sefyllfa yw un o'i phrif flaenoriaethau.

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod rhestrau aros ac amseroedd aros am driniaeth canser ar eu hail lefel uchaf ar gofnod.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod y sefyllfa yn "ofnadwy".

Mae Ms Morgan yn mynnu bod rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r amseroedd aros hiraf am driniaeth, gyda 97% o gleifion yn aros llai na dwy flynedd yn ardaloedd chwech o'r saith bwrdd iechyd.

Er hynny mae nifer y bobl sy'n aros dros ddwy flynedd yn sylweddol uwch o'i gymharu â Lloegr.

"Dyw e ddim yn ddigon da, ac rydw i'n disgwyl i'r byrddau iechyd berfformio yn well," meddai, "ac ar dyma fydda i yn canolbwyntio yn y dyfodol".

'Rhaid i berfformiadau wella'

Wrth ymateb i gwestiwn ynglŷn â chosbau posib i fyrddau iechyd sydd ddim yn cyflwyno gwelliannau digonol, dywedodd Ms Morgan fod "opsiynau yn cael eu hystyried".

"Rydw i wedi holi yn benodol am opsiynau o ran beth allwn ni ei wneud gyda sancsiynau, ond beth y mae'n rhaid i ni osgoi yw sefyllfa lle mae cleifion yn dioddef o ganlyniad i gosbi byrddau iechyd.

"Ond mae rhai o'r swyddogion yma ar gyflogau uchel, ac mae'n rhaid i ni weld perfformiadau yn gwella."

Ychwanegodd y byddai modd i fyrddau iechyd sicrhau mwy o "ryddid" os ydyn nhw'n dangos cynnydd digonol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithredu diwydiannol wedi effeithio ar y ffigyrau diweddaraf, yn ôl Eluned Morgan

Yn ôl ffigyrau diweddara'r GIG, roedd 763,105 o achosion lle mae rhywun yn aros am driniaeth ym mis Chwefror - bron cymaint â'r record o 764,197 a gafodd ei gofnodi ym mis Hydref y llynedd.

Daw'r cynnydd diweddara wedi cyfnod o dri mis lle'r oedd nifer y rhai oedd yn aros am driniaeth yn araf ddisgyn.

Ym mis Chwefror dechreuodd 53.4% o achosion lle mae rhywun yn cael ei hamau o gael canser driniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau, o'i gymharu â 54.7% yn y mis blaenorol.

Dywedodd Ms Morgan fod gweithredu diwydiannol gan feddygon iau - sydd wedi streicio tair gwaith eleni - wedi effeithio ar ffigyrau mis Chwefror.

Disgrifiad o’r llun,

Mae meddygon iau wedi bod yn streicio yn sgil anghydfod am dâl ac amodau gwaith

Mae meddygon iau wedi cytuno i oedi cynlluniau pellach i streicio am y tro er mwyn ail-ddechrau trafodaethau tâl gyda'r llywodraeth, wedi'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel cynnig cyflog "sylweddol".

Mae Ms Morgan wedi dweud yn y gorffennol nad oedd arian ar gael i wella'r cynnig o 5% a gafodd ei ddisgrifio fel cynnig terfynol ar y pryd.

Ond nododd fod y cynnig diweddaraf wedi dod yn sgil derbyn arian ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Ychwanegodd fod y llywodraeth "yn edrych 'mlaen" i gynnal y trafodaethau hynny, ond doedd hi ddim yn barod i ddatgelu rhagor o fanylion am y cynnig newydd.

Dywedodd Sam Rowlands, llefarydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion iechyd: "Mae'r ystadegau ofnadwy yma yn dangos pam fod rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru dderbyn cyfrifoldeb am eu perfformiad, ac rwy'n edrych ymlaen at gael cynnig datrysiadau posib fel rhan o'm rôl newydd.

"Yn Lloegr, lle mae'r Ceidwadwyr yn rheoli, mae rhestrau aros yn cael eu torri, ond yng Nghymru mae Llafur yn gyfrifol am gynnydd arall sydd yn siŵr o effeithio ar gleifion yma."

Pynciau Cysylltiedig