Pysgod marw mewn afon wedi tân yn Yr Wyddgrug

pysgodFfynhonnell y llun, Caroline Dawson
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 50 o bysgod wedi eu darganfod yn farw yn Afon Alun

  • Cyhoeddwyd

Mae pysgod marw wedi eu darganfod mewn afon yn dilyn tân a ffrwydradau mewn ffatri gemegau yn Yr Wyddgrug.

Mewn datganiad, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod tua 50 o bysgod wedi eu darganfod yn farw yn Afon Alun.

Dywedodd llefarydd: "Byddwn ni'n cymryd rhagor o samplau o'r dŵr ger y safle ac ymhellach i lawr yr afon.

"Byddwn ni'n gwneud popeth allwn ni i leihau'r effaith ar yr afon."

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffatri Synthite ddydd Mawrth ac mae rhai diffoddwyr tân yn dal i fod ar y safle.

Mae'r BBC wedi gwneud cais i'r cwmni am sylw.

Ffynhonnell y llun, Caroline Dawson
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gyngor i bobl beidio mynd yn agos at Afon Alun

Dywedodd Lyndsey Rawlinson o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Rydyn ni'n dal i gydweithio gyda gwasanaethau eraill wrth i ni geisio lleihau'r effaith ar y gymuned a'r amgylchedd.

"Rydyn ni'n gofyn i bobl beidio mynd yn agos at Afon Alun ac i gadw anifeiliaid draw o'r dŵr."

Dywedodd Caroline Dawson o Ymddiriedolaeth Dyfrdwy Cymru: "Dwi erioed wedi gweld unrhywbeth fel hyn.

"Roedd y dŵr yn llwyd ac yn gymylog a doedd o ddim yn edrych yn neis.

"Mi wnaethon ni gerdded o'r ffatri, ac roedd bob pysgodyn welson ni wedi marw.

"Roedd pryfed yn edrych fel eu bod nhw'n ceisio dod allan o'r dŵr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud nad oes rhaid i bobl gadw eu ffenestri a'u drysau ynghau erbyn hyn

Roedd cyngor i bobl gadw eu drysau a'u ffenestri ynghau ar ôl y digwyddiad, ond erbyn hyn mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud nad oes disgwyl i bobl wneud hynny.

Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ddydd Mawrth ac mae nifer o ffyrdd yn yr ardal yn dal i fod ynghau.

Mae Heddlu'r Gogledd, Gwasanaeth Tân y Gogledd a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dal i ymchwilio i'r digwyddiad.