Gardd o Gymru'n cipio aur yn Sioe Flodau Chelsea

Dan Bristow a Nicola Pulman yng ngardd Maint CymruFfynhonnell y llun, Maint Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dylunydd yr ardd, Dan Bristow, a chyfarwyddwr elusen Maint Cymru, Nicola Pulman, yn dathlu

  • Cyhoeddwyd

Mae gardd o Gymru sydd wedi ei disgrifio fel y "fwyaf bioamrywiol" yn hanes Sioe Flodau Chelsea wedi cipio medal aur.

Penderfynodd y beirniaid mai gardd Maint Cymru, dolen allanol - sy'n cynnwys dros 300 o rywogaethau gwahanol o blanhigion - oedd yr orau yn ei chategori hefyd.

Neges yr ardd yw pwysigrwydd coedwigoedd trofannol, sy'n gartref i dros hanner holl rywogaethau anifeiliaid a phlanigion y blaned.

Dywedodd y dylunydd Dan Bristow, o Fethesda, Gwynedd ei fod "wedi gwireddu breuddwyd".

Ffynhonnell y llun, Maint Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o ddylunio'r ardd a'i pharatoi ar gyfer Sioe Chelsea wedi cymryd blwyddyn.

Mae'r ardd yn cynnwys 313 o rywogaethau o blanhigion, sy'n cymharu â'r nifer o wahanol fathau o goed all fod mewn ond un hectar o goedwig law drofannol.

"Mae'n amrywiaeth anhygoel o fywyd, a mae'n rhywbeth sydd angen ei warchod a'i arddangos," eglurodd Mr Bristow.

Tra bod ymwelwyr yn cael y teimlad o fod mewn tirwedd werdd sy'n debyg i goedwig law, mae'r holl blanhigion gafodd eu defnyddio yn gallu cael eu tyfu yn y Deyrnas Unedig.

Gobaith Mr Bristow yw y bydd yn ysbrydoli pobl i ystyried cynnwys mwy o amrywiaeth o ran y plannu yn eu gerddi eu hunain, er lles bywyd gwyllt.

"Yr ardd hon oedd y prif beth ar fy meddwl ers misoedd lawer a mae wedi bod yn broses hynod o gymhleth," meddai.

"Mae'n sbeshal iawn i gael ein hadnabod fel hyn achos fe wnaethon ni gymryd risg gyda'r dyluniad a trio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol."

"Dwi wrth fy modd - a wedi blino'n lân - hefyd".

Ffynhonnell y llun, Rare British Plants Nursery
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o flodau melyn, gan gynnwys heboglys y Bannau, yn yr ardd ac mae'r lliw yn cyfleu gobaith

Cafodd yr ardd ei chomisiynu gan elusen newid hinsawdd Maint Cymru, sy'n gweithio i ddiogelu ardaloedd o goedwig law dramor.

Mae'r cysylltiadau Cymreig yn amlwg - gyda'r ardd ei hun wedi'i dylunio yn siâp Cymru, ac yn arddangos rhai o'n rhywogaethau mwyaf prin.

Tan yn ddiweddar, dim ond un planhigyn unig o heboglys y Bannau (Hieracium breconicola) oedd ar ôl ar lethr yn y parc cenedlaethol, tra bod dant y llew Aberhonddu (Taraxacum breconense), a oedd unwaith yn olygfa gyffredin mewn rhannau o Sir Fynwy a Phowys, hefyd mewn perygl o ddiflannu'n llwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Maen nhw wrthi'n paratoi i groesawu'r ardd i Brifysgol Bangor ar ôl i Sioe Flodau Chelsea ddod i ben

Roedd yr ardd yn cystadlu yn y categori 'All About Plants' yn Sioe Flodau Chelsea - lle mae'n rhaid gorchuddio o leiaf 80% o bob dyluniad â planhigion.

Dywedodd cyfarwyddwraig Maint Cymru, Nicola Pulman, ei bod hi'n "anrhydedd fawr" cael bod yn rhan o'r digwyddiad.

"Mae 'na gyfle i gyrraedd llawer iawn o bobl - ry'n ni'n elusen fach ond mae gyda ni ddylanwad mawr," meddai.

Ar ol serennu yn Chelsea yr wythnos hon, fe fydd yr ardd yn cael ei symud i erddi botaneg Treborth, Prifysgol Bangor.

Dywedodd y curadur Natalie Chivers y byddai'n gartref parhaol "addas ac arbennig iawn" i ardd sydd wedi creu cryn argraff.

Pynciau Cysylltiedig