Casglu i'r ambiwlans awyr wedi ymosodiad Dyffryn Aman

Ambiwlans Awyr yn RhydamanFfynhonnell y llun, Newyddion S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dau o hofrenyddion yr Ambiwlans Awyr eu galw i'r digwyddiad yn Rhydaman

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch i godi arian i'r ambiwlans awyr wedi'r digwyddiad treisgar yn Ysgol Dyffryn Aman, wedi codi dros £5,000 mewn ychydig ddyddiau.

Cafodd dau athro ac un disgybl eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu trywanu ar dir yr ysgol ar 24 Ebrill.

Mae merch 13 oed, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobl a bydd ei hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe ar 27 Mai.

Dywedodd trefnwyr y dudalen codi arian ar-lein eu bod wedi dewis dechrau casgliad fel diolch i'r ambiwlans awyr am eu "gwasanaeth gwych".

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ysgol Dyffryn Aman ar fore dydd Mercher 24 Ebrill.

Cafodd dwy athrawes, Liz Hopkin a Fiona Elias, ac un disgybl eu hanafu tra bod disgyblion wedi eu cadw mewn dosbarthiadau am rai oriau.

Roedd dau o hofrenyddion yr ambiwlans awyr yn rhan o ymateb y gwasanaethau brys.

Erbyn prynhawn dydd Iau roedd y tri chlaf wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Liz Hopkin a Fiona Elias oedd yr athrawon a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad

Ar y dudalen codi arian mae'r trefnwyr yn dweud bod "nifer fawr o bobl wedi bod mewn cysylltiad" wedi'r digwyddiad i ofyn a oedd modd gwneud cyfraniad.

Fe wnaed y penderfyniad i godi arian ar gyfer yr ambiwlans awyr, gyda'r trefnwyr yn nodi y byddai'r rhoddion yn help wrth gynnal y gwasanaeth "hanfodol" yng Nghymru.

Erbyn bore Mercher roedd dros £5,000 wedi cael ei godi.

Mae Ysgol Dyffryn Aman wedi ailagor i ddisgyblion yr wythnos hon.

Bydd cymorth arbenigol ar gael i ddisgyblion a staff am y pythefnos nesaf, yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae'r heddlu hefyd wedi cadarnhau eu bod yn gweithio gyda'r ysgol ac asiantaethau eraill i sicrhau bod y gefnogaeth angenrheidiol ar gael i bawb.

Pynciau Cysylltiedig