Ymgyrch i brynu Ysgol Cribyn wedi codi £70,000

Ysgol Cribyn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i'r gymuned godi £175,000 cyn mis Gorffennaf i brynu Ysgol Cribyn

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch i godi arian i brynu hen ysgol yng Ngheredigion a’i droi’n ganolfan gymunedol wedi llwyddo i godi £70,000.

Y bwriad yw datblygu Ysgol Cribyn yn ganolfan gymdeithasol ac addysg leol, ac yn gartref fforddiadwy i deulu lleol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi’r cynnig cyntaf i’r gymuned leol brynu’r ysgol, ac mae ganddynt tan fis Gorffennaf i godi £175,000.

Roedden nhw wedi gosod chwe wythnos o amser iddyn nhw’u hunain i gasglu arian gan y cyhoedd.

Mae'r ymgyrchwyr nawr yn gobeithio sicrhau arian cyhoeddus er mwyn bwrw 'mlaen â'u cynlluniau.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafwyd noson i lansio'r ymgyrch i godi arian chwe wythnos yn ôl

Mae Cymdeithas Clotas, sy’n gyfrifol am yr ymgyrch, wedi bod yn cynnal digwyddiadau i godi arian ac yn gwerthu cyfranddaliadau yn yr adeilad.

Yn ôl Alan Henson, cadeirydd yr ymgyrch: “Mae’n newyddion ffantastig!

"Dwi ddim yn siŵr be’ sy’ fwya' cyffrous: y ffaith bo’ ni wedi codi gymaint o arian mewn cyn lleied o amser neu fod ‘da ni gymaint o aelodau – dros 250!

“O bentre o ryw 300 yn unig o boblogaeth, ma’r naill ffigwr a’r llall yn ffantastig.

“Chwe wythnos nôl, £10 o’dd ’da ni yn y banc.

"Nawr fod ’da ni dros £70,000, a chrynswth hwnna wedi’i godi yn y gymdogaeth ei hunan, y’n ni’n ffyddiog iawn o’n gallu i ennyn cefnogaeth y cronfeydd arian a chodi digon nid yn unig i brynu’r ysgol ond i addasu’r ysgol yn gartre' cysurus i deulu bach lleol ac yn ganolfan a fydd yn cyfoethogi bywyd cymdeithasol ac addysgol Cribyn a Dyffryn Aeron hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Elliw Dafydd, swyddog datblygu’r prosiect, "ma’ hi wedi bod yn gyffrous iawn gweld y brwdfrydedd yn cydio ac yn lledu"

Yn ôl Elliw Dafydd, swyddog datblygu’r prosiect: “Wrth i’r sieciau a’r ffurflenni cyfranddaliadau gyrraedd, ma’ hi wedi bod yn drawiadol pa mor lleol yw’r buddsoddwyr – a pha mor gynhwysfawr hefyd gyda newydd-ddyfodiaid i Gribyn lawn mor gefnogol â phawb arall.

Ychwanegodd bod y newid sydd wedi digwydd o fewn y gymdogaeth yn beth pwysig iawn.

“Ro’n i’n ymwybodol mai criw bychan o Gymry cynhenid o’dd yn gyrru’r prosiect, ond wrth i’r fenter brifio, ma’ hi wedi bod yn gyffrous iawn gweld y brwdfrydedd yn cydio ac yn lledu ac – yn unol â bwriad y criw bach – yn torri ar draws y ffiniau traddodiadol," meddai.

'Wedi’n syfrdanu dro ar ôl tro'

Mae Alan yn teimlo’r un cyffro.

“Dros y chwe wythnos ddiwetha', y’n ni wedi’n syfrdanu dro ar ôl tro gan y wynebau newydd sydd wedi dod i ganol y bwrlwm cymdeithasol.

“Y’n ni wedi cnoco ar ddryse di-ri gan dorri’r garw â phobl o’dd yn bobl ddiarth cyn ’ny, ond ma’r ymdrech fach honno wedi talu ar ei chanfed.

“Ma' gwylio cymaint o bobl yn croesi trothwy’r ysgol a dod i 'nabod ei gilydd am y tro cynta' wedi bod yn un o bleserau penna’r chwech wythnos ddiwetha' hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r grŵp llywio yn hyderus y byddan nhw wedi codi gweddill yr arian cyn mis Gorffennaf

Pan gaewyd yr ysgol yn 2009, ffurfiwyd Cymdeithas Clotas er mwyn cynnal digwyddiadau yn yr adeilad gyda’r nos ac ar benwythnosau a denu newydd-ddyfodiaid i’r ardal i’r iaith a diwylliant Cymraeg.

Mae’r gymdeithas yn fath o senedd bentref sydd â chynrychiolydd o bob mudiad yn y gymdogaeth.

Ym mis Hydref 2023, cynhaliwyd cyfarfod i drafod y posibilrwydd o greu Cwmni Budd Cymdeithasol, sef menter gydweithredol.

Ers hynny, mae swyddog prosiect wedi cael ei phenodi a’r gwaith wedi dechrau o ddifri' i brynu’r adeilad.

Mae’r penseiri lleol wedi creu cynlluniau ar gyfer troi rhan helaetha’r adeilad yn ganolfan gymunedol.

Bydd tŷ’r ysgol gynt yn cael ei droi’n gartref fforddiadwy ar gyfer teulu ifanc lleol ac mae’r broses o geisio am ganiatâd cynllunio wedi dechrau.

Er bod y chwe wythnos o godi arian ar ben, mae’r ymgyrch yn dal i annog pobl i brynu cyfranddaliadau ac mae’r grŵp llywio yn hyderus y byddan nhw wedi codi gweddill yr arian cyn mis Gorffennaf.