'Micro-gwsg' oedd achos gwrthdrawiad angheuol - cwest
- Cyhoeddwyd
Bu farw cwpl ar ôl gwrthdrawiad gyda cherbyd heddlu ar ôl i'r gyrrwr ddisgyn i gysgu am gyfnod byr iawn, mae cwest wedi clywed.
Bu farw John a Nerys Jackson, o Fwlchgwyn, Wrecsam, ar yr A458 yn Morville Heath, Sir Amwythig, ar 9 Rhagfyr y llynedd.
Clywodd Llys Crwner Amwythig fod eu Skoda Octavia glas wedi gwyro i lwybr Ford Transit yr heddlu tra bod Mr Jackson yn cysgu am ennyd.
Cafodd ei ddisgrifio fel micro-gwsg yn y llys - cyfnod byr iawn o gwsg pan allai'r person ymddangos yn effro.
Cofnododd y crwner reithfarn o farwolaeth trwy ddamwain ffordd a dywedodd nad oedd unrhyw beth y gallai PC Bethan Davis fod wedi'i wneud i'w atal.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ôl i Mr Jackson, peiriannydd cymorth technegol, gasglu ei wraig, athrawes, o faes awyr Brize Norton yn dilyn o Ynysoedd y Dyrchafael.
Roedd lluniau dashcam yn dangos bod car Mr Jackson wedi croesi'r llinell wen yng nghanol y ffordd ar droad chwith, clywodd y llys.
Bu bron i'r ddau gerbyd darn benben â'i gilydd, ond clywodd y cwest fod Mr Jackson wedi troi'r car i ffwrdd eiliadau'n gynt.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r lleoliad rhwng Much Wenlock a Bridgnorth toc wedi 10:15. Cafodd Mr Jackson, 60, ei gyhoeddi'n farw am 11:03.
Roedd Mrs Jackson, 57, yn y sedd gefn. Fe gafodd hi ataliad ar y galon a chafodd ei gyhoeddi'n farw chwe munud wedyn.
Cafodd merch y cwpl, Ffion Jackson, oedd yn teithio yn sedd flaen y Skoda, anafiadau difrifol.
Clywodd y llys bod gyrrwr y fan Heddlu Gorllewin Mercia, Ms Davies wedi'i hanafu'n ddifrifol yn y gwrthdrawiad.
Ni ddaeth ymchwilwyr yr heddlu o hyd i unrhyw ddiffygion yn y cerbydau, a dywedon nhw ei bod yn "debygol iawn fod Mr Jackson wedi syrthio i gysgu" oherwydd y daith hir.
Dywedodd y crwner, John Ellery, fod Mr a Mrs Jackson wedi marw oherwydd anafiadau trawmatig a achoswyd gan wrthdrawiad ar y ffordd.
Cafodd y digwyddiad ei gyfeirio’n flaenorol at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.