Amgueddfa Lechi Llanberis yn disgwyl derbyn tua £18m

Amgueddfa Llechi Llanberis Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dyma’r buddsoddiad sylweddol cyntaf "ers chwarter canrif”, medd pennaeth yr amgueddfa

  • Cyhoeddwyd

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn disgwyl derbyn “tua £18m” dros y blynyddoedd nesaf er mwyn gwella mynediad a phrofiad ymwelwyr.

Yn ôl pennaeth yr amgueddfa yn Llanberis, mae’r cyllid yn “llygedyn o obaith” i’r sector, sy’n wynebu cyfnod “heriol”.

Fis Ebrill fe gyhoeddodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru y byddai’n rhaid gwneud 90 o ddiswyddiadau oherwydd toriadau i’w cyllideb.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn “i ganolbwyntio ar wasanaethau craidd”.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn disgwyl derbyn “tua £18m” dros y blynyddoedd nesaf

Bydd y cyllid i’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis yn dod o sawl cronfa, gan gynnwys y Loteri Genedlaethol, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a grant gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl yr amgueddfa mae statws UNESCO Treftadaeth y byd wedi galluogi’r sefydliad i wneud ceisiadau am ragor o grantiau.

Dyma’r buddsoddiad sylweddol cyntaf "ers chwarter canrif”, meddai Elen Wyn Roberts, pennaeth yr amgueddfa.

"Mae 'na elfennau o’r adeilad sy’n gwegian erbyn hyn ac mae’r adeilad ei un dros 150 o flynyddoedd oed," meddai.

“Mae’r gwaith cadwraeth yn bwysig ond hefyd gwella'r isadeiledd, y siop a’r caffi, a hefyd gwella profiad yr ymwelydd yn gyffredin a'r orielau.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elen Wyn Roberts ei bod hi'n gyfnod heriol iawn i'r sector

Fe ddaw’r buddsoddiad wedi pryderon ar draws y sector yng Nghymru o sgil effeithiau toriadau.

Yn gynharach eleni fe wnaeth y Prif Weinidog Vaughan Gething amddiffyn y toriadau i’r amgueddfa genedlaethol, gan beidio â chynnig cymorth brys.

Ar y pryd, fe rybuddiodd Jane Richards, prif weithredwr Amgueddfa Cymru, y gallai un o'i safleoedd mwyaf adnabyddus - yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd - gau am fod ei gyflwr yn dirywio.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nod yr arian ydy gwella mynediad a phrofiad ymwelwyr

Yn ôl Elen Wyn Roberts, mae’r sector yn wynebu heriau enfawr.

“Mae’n gyfnod heriol ofnadwy a bod yn onest.

“Ond mae’r arian yma yn rhoi llygedyn o obaith i ni. Mae’n rhoi dyfodol i’r Amgueddfa Lechi mewn cyfnod mor ansicr.

Bydd y gwaith diweddaru yn canolbwyntio ar ehangu casgliadau a gwella mynediad, ynghyd â sicrhau mwy o gyfleodd i addysgu.

'Cadw sgiliau'

Yn ôl Jon Jo, chwarelwr sy’n gweithio gyda’r amgueddfa - ac o deulu chwe chenhedlaeth o chwarelwyr - mae’r newyddion i’w groesawu.

“Mae’n syniad da iawn ac mae’n mynd i gadw sgiliau i fynd a’u harddangos nhw i bobl o bedwar ban byd," meddai.

“Mae’r sgiliau yn mynd yn brin, ond dyna pam mae’n bwysig trio cael rhywbeth tu ôl iddo i gadw fo fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r chwarelwr Jon Jo yn croesawu'r newyddion

Wrth ymateb i bryderon am gyllid dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon yn rhan annatod o’n cymdeithas a’n lles.

“Rydym wedi bod yn glir bod ein cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd."

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Lesley Griffiths: "Mae'r diwydiant llechi yn rhan bwysig o gymunedau, tirweddau a threftadaeth y rhan yma o Gymru ac mae Amgueddfa Lechi Cymru yn cynnig cyfle unigryw i gael cipolwg ar fywydau'r gweithwyr llechi a'u teuluoedd."