Mam yn pledio'n ddieuog i ddynladdiad ei merch
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o ddyn laddiad yn dilyn marwolaeth ei merch yn 2015.
Fe wnaeth Sarah Morris o'r Stryd Fawr, Bagillt yn Sir y Fflint gyflwyno ei phle pan ymddangosodd hi o flaen barnwr yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener.
Bu farw ei merch Rosie, a oedd yn flwydd oed, yn ei chartref ar y pryd ym Maes Glas ger Treffynnon ym Mehefin 2015.
Y gred yw bod y ferch fach wedi boddi yn y bath.
Fe wnaeth Ms Morris hefyd bledio'n ddieuog i gyhuddiad o greulondeb yn erbyn plentyn.
Fe fydd yr achos yn dechrau ar 5 Mawrth o flaen barnwr o'r Uchel Lys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2018