Nathan Gill i wynebu achos ar gyhuddiadau llwgrwobrwyo yn ymwneud â Rwsia

Nathan Gill yn cyrraedd y llys
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Nathan Gill ymddangos nesaf yn yr Old Bailey ar 18 Gorffennaf 2025

  • Cyhoeddwyd

Bydd cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru yn wynebu achos llys yn 2026 wedi iddo gael ei gyhuddo o droseddau llwgrwobrwyo.

Mae Nathan Gill, 51, o Langefni, Ynys Môn, wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau llwgrwobrwyo gan Heddlu'r Met am dderbyn arian yn gyfnewid am wneud datganiadau a fyddai o fudd i Rwsia yn Senedd Ewrop.

Mae wedi ei gyhuddo o un cyhuddiad o gynllwynio i gyflawni llwgrwobrwyo o dan Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977, ac o wyth achos o lwgrwobrwyo o dan Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010.

Roedd Mr Gill yn arweinydd UKIP Cymru am gyfnod, ac fe gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru yn 2016.

Dywedodd Mrs Ustus Cheema-Grubb y byddai'r achos yn dechrau ar 29 Mehefin 2026.

nathan gillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Gill yn arweinydd UKIP Cymru am gyfnod

Mewn gwrandawiad yn yr Old Bailey yn Llundain ddydd Gwener, dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Clare Ashcroft fod y cyn-aelod o Senedd Ewrop yn bwriadu pledio'n ddieuog.

Mae wedi'i gyhuddo o gynllwynio gyda'r cyn-wleidydd Wcrainaidd Oleg Voloshyn rhwng 1 Ionawr 2018 a 1 Chwefror 2020.

Wrth sefyll yn y doc, siaradodd Mr Gill i gadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni yn unig.

Cafodd Mr Gill ei ethol gyntaf fel Aelod Seneddol UKIP yn 2014 ac ymunodd â'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y gelwid bryd hynny, yn 2016.

Bu'n aelod Seneddol Ewrop nes i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2020.

Clywodd llys yn flaenorol fod Mr Gill wedi ei stopio ym Maes Awyr Manceinion ar 13 Medi 2021 o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019.

Cafodd tystiolaeth gael ei ganfod ar ffôn Mr Gill oedd yn dangos ei fod mewn "perthynas broffesiynol" gyda chyd-ddiffynnydd a chyn-wleidydd o'r enw Oleg Voloshyn, a'i fod wedi "derbyn arian yn gyfnewid am iddo berfformio gweithgareddau fel Aelod o Senedd Ewrop".

Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,

Siaradodd Mr Gill i gadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni yn unig

Dywedodd y barnwr wrth Mr Gill bod "rywfaint o baratoi angen ei wneud" cyn i'w achos ddechrau.

Cafodd Mr Gill ei ryddhau ar fechnïaeth amodol a nodwyd na ddylai gysylltu ag Oleg Voloshyn na chael dogfennau teithio rhyngwladol.

Cadarnhaodd Mr Gill ei fod wedi rhoi ei basbort i'r heddlu wedi'r gwrandawiad blaenorol ym mis Chwefror.

Dywedodd Reform UK nad yw Mr Gill yn aelod o'r blaid.

Mae disgwyl iddo ymddangos nesaf yn yr Old Bailey ar 18 Gorffennaf 2025.

Pynciau cysylltiedig