'Angen trin vapes fel dibyniaeth a chynnig cymorth i blant'

Silffoedd siop llawn vapes
  • Cyhoeddwyd

Dylai plant gael cynnig cymorth gyda dibyniaeth ar vapes yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae grŵp fu’n ymchwilio i’r cynnydd cyflym yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n defnyddio vapes hefyd yn argymell gwahardd disgrifio blasau fel bubblegum a melon dŵr.

Dylai’r blasau gael eu cyfyngu i dybaco, mintys, menthol a ffrwyth, yn ôl yr adroddiad.

Ymysg y galwadau eraill mae gwahardd vapes untro, cyflwyno pecynnu plaen a chyfyngu ar allu pobl ifanc i weld a chael gafael mewn vapes.

Dywedodd llefarydd ar ran y diwydiant vapes bod angen taclo eu defnydd gan blant, a bod nifer o "opsiynau synhwyrol" ar gael.

Problem dibyniaeth nid ymddygiad

Yn ôl y grŵp dylai defnyddio vapes gael ei ystyried fel problem ddibyniaeth yn hytrach na phroblem ymddygiad ymysg disgyblion, a dylai bod cefnogaeth ar gael.

Fel rhan o’r adroddiad, siaradodd y grŵp â nifer o bobl ifanc ddywedodd eu bod nhw wedi crynu a gweld newid mewn archwaeth bwyd wrth geisio rhoi’r gorau i ddefnyddio vapes.

Tra bod rhai wedi dweud bod defnyddio vapes wedi eu helpu gyda straen neu ddelio â theimladau anodd, roedd nifer hefyd yn teimlo’n euog a phryderus ar ôl eu defnyddio.

Disgrifiad o’r llun,

Dylai plant gael cymorth i stopio defnyddio vapes yn ôl yr adroddiad

Dylai plant gael cynnig gwahanol therapïau i drin caethineb i nicotin er mwyn ceisio rhoi’r gorau i vapes, yn ôl yr adroddiad, fel cael gwm cnoi a phatshys croen sydd eisoes ar gael i ysmygwyr dros 12 oed.

Ers 2015, mae’n anghyfreithlon i werthu vapes i bobl o dan 18 yn y Deyrnas Unedig.

Ond mae’r llywodraethau yn San Steffan a Bae Caerdydd wedi dweud eu bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth bellach i ostwng apêl ac argaeledd vapes.

Yr argymhellion

  • Gwahardd vapes mewn ardaloedd sydd wedi eu neilltuo ar gyfer plant a phobl ifanc;

  • Cyfyngu ar hysbysebu, pecynnu ac arddangos vapes;

  • Gwahardd gwerthu a chynhyrchu vapes untro.

Yn ôl yr adroddiad byddai’r camau'n cydbwyso’r angen i atal plant rhag dioddef sgil-effeithiau defnyddio vapes, tra’n caniatáu i oedolion sy’n ysmygu eu defnyddio fel dewis amgen iachach i sigaréts.

'Fel siop fferins'

Dywedodd Owain Gethin Davies, Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst fod "pwysau" ar bobl ifanc i "dreialu" vapes.

"Dwi'n sylweddoli fod rhai efallai'n mynd yn gaeth i'r vapio ond treialu 'di lot ohono fo ymysg pobl ifanc.

"Mae'n rhywbeth cyffrous, mae'r blasau 'ma a'r ffaith fod nhw'n rhad ac ar gael mor hawdd yn gwneud o'n ddeniadol iddyn nhw drio'r vapes," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn defnyddio vapes

Ychwanegodd Mr Davies fod vapes yn "broblem ar draws ysgolion" a bod ymdrech i addysgu plant "am y peryglon, am y sgil effeithiau iechyd... a'r ffaith hefyd fod nhw ddim yn fod i brynu nhw pan maen nhw dan oedran chwaith".

"Be' sy'n anghyfreithlon ydi'r gwerthu, ddim y defnydd a dyna sy' 'di achosi problem i'r ysgolion. 'Da ni ddim yn dal pobl ifanc yn eu prynu nhw, neu wybod pwy sy' wedi gwerthu nhw iddyn nhw.

"Y broblem 'da ni'n delio efo 'di'r defnydd ohono fo, felly os maen nhw'n 'neud o'n anoddach, yn ddrytach, bod 'na dreth yn mynd arnyn nhw, dyna'r cam ymlaen a bod y rhai untro ddim yn bodoli ac yn sicr fod y blas just yn wbath hollol blaen."

Dywedodd Mr Davies fod siopau vapes "fel siop fferins a dyna 'di'r peryg, mae o 'di mynd i ddenu pobl ifanc - ac ella ddim gymaint o oedolion".

Dywedodd Chris Emmerson o Iechyd Cyhoeddus Cymru y bydd gweithredu’r argymhellion yn mynd i’r afael ag “anghenion cymhleth” plant a phobl ifanc sy’n gaeth i vapes.

“Mae therapïau disodli nicotin, sydd eisoes yn cael eu cynnig i'r rhai dros 12 oed sy'n smygu, yn un dull a allai helpu plant a phobl ifanc allan o'u dibyniaeth.

“Mae consensws clir bod yn rhaid mynd i'r afael â'r cynnydd... a thrwy barhau i weithio gyda'n gilydd mae gennym y cyfle gorau o fynd i'r afael â'r mater yn gyflym ac yn effeithiol.”

Dyw’r mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru ddim yn defnyddio vapes yn ôl yr adroddiad, ond mae cynnydd mawr yn y nifer, yn arbennig ymysg merched, ac mae wedi dod yn gyffredin ymysg pobl ifanc.

Mae nifer yn teimlo pwysau gan gyfoedion a’r angen i “edrych yn cŵl” a ffitio mewn, gyda nifer methu mynd trwy ddiwrnod ysgol heb ddefnyddio vape.

Roedd nifer o’r bobl ifanc a holwyd yn ymwybodol o ddelio vapes o fewn eu cylchoedd cymdeithasol.

Vapes untro yn broblem ehangach

Cafodd arweiniad newydd ar y defnydd o vapes ei gyhoeddi i ysgolion fis Medi.

Mae’r adroddiad yn casglu bod amcangyfrif y nifer o vapes anghyfreithlon yn anodd, er i safonau masnach yn 2022-23 gymryd meddiant o 257,000 o vapes untro, nad oedd yn cydymffurfio â rheoliadau.

Gall vapes anghyfreithlon achos niwed pellach trwy gael lefel uwch o nicotin neu orboethi ac achosi tanau.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Gallai trethi uwch ar vapes untro helpu i daclo defnydd ymysg pobl ifanc, meddai'r adroddiad

Nododd yr adroddiad hefyd bod y cynnydd mewn vapes untro yn achosi problemau amgylcheddol gan eu bod fel arfer yn cael eu rhoi gyda gwastraff cyffredinol ac yn anoddach i’w hailgylchu.

Awgrym arall gan yr adroddiad yn hytrach na gwahardd vapes untro oedd trethi uwch, tra’n eu cadw’n rhatach na thybaco i annog ysmygwyr i'w dewis yn lle sigaréts.

Maen nhw hefyd yn argymell cadw cofrestr genedlaethol o werthwyr nicotin a thybaco gan gynnwys cynllun trwyddedu statudol fyddai’n caniatáu cyfyngiadau ar nifer y siopau sy’n gwerthu vapes a monitro lleoliad.

'Opsiynau synhwyrol ar gael'

Dywedodd llefarydd ar ran y diwydiant vapes bod angen taclo eu defnydd gan blant, a bod nifer o "opsiynau synhwyrol" ar gael.

Dywedodd Robert Sidebottom o'r gymdeithas sy'n cynrychioli'r diwydiant bod angen gorfodi'r gyfraith ar werthu vapes yn well, gan ei bod eisoes yn anghyfreithlon i blant eu prynu.

Ychwanegodd y byddai gwahardd vapes untro yn arwain at eu gwerthu'n anghyfreithlon, ac y byddai gwahardd rhai blasau yn golygu bod rhai yn troi'n ôl at ysmygu.

Bydd cyfyngu ar vapes "fel sigarets" yn golygu bod "llai o ysmygwyr yn rhoi'r gorau a mwy yn marw", meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "bryderus iawn" am y cynnydd mewn defnydd vapes ymysg pobl ifanc, a'u bod yn "gweithio gyda llywodraethau eraill y DU i'w daclo trwy leihau eu hapêl a'u hargaeledd i blant".