'Hyd at 200 o swyddi' dan fygythiad ym Mhrifysgol Aberystwyth

Disgrifiad,

Dywedodd AS Ceredigion, Elin Jones, fod colli swyddi yn ardal Aberystwyth "yn gonsyrn mawr"

  • Cyhoeddwyd

Gallai hyd at 200 o swyddi fod mewn perygl wrth i Brifysgol Aberystwyth geisio gwneud arbedion o £15m, yn ôl Aelod o'r Senedd yr ardal.

Ddydd Iau, cyhoeddodd yr is-ganghellor, yr Athro Jon Timmis, "newid sylweddol" i'r ffordd mae'r sefydliad yn gweithredu, wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion.

Dywedodd y bydd y brifysgol yn dechrau cynllun diswyddo gwirfoddol er mwyn ceisio gwneud arbedion.

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd AS Ceredigion, Elin Jones, bod undeb yn amcangyfrif y bydd hyd at 200 o swyddi yn cael eu colli.

"Mae'r undeb sy'n cynrychioli gweithwyr prifysgol wedi amcan y gall fod rhwng 150 a 200 o swyddi [dan fygythiad]", meddai.

"Maen nhw fel fi yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o’r toriadau hynny yn cael eu cynnig yn wirfoddol gan weithwyr sy’n awyddus neu'n penderfynu gadael.”

Ychwanegodd bod pryder y bydd cyflwyno'r arbedion yn cael "effaith sylweddol ar y dref".

Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Ceredigion, Elin Jones, yn dweud bod y newyddion yn "hynod siomedig"

'Impact ar y gymuned gyfan'

Dywedodd Elin Jones bod y newyddion yn "hynod siomedig".

Dywedodd bod colli swyddi yn ardal Aberystwyth "yn gonsyrn mawr yn uniongyrchol i'r rhai sy'n gweithio i'r brifysgol ond mae'r impact yn mynd i fod ar yr economi yn ehangach".

"Mae rhaglen o gynnig diswyddiadau gwirfoddol yn gam cyntaf pwysig, a gobeithio bydd dim rhaid symud i ddiswyddiadau gorfodol sydd yn rhywbeth hollol wahanol.

"Ma’r impact ar dref fel Aberystwyth, ardal fel Ceredigion, yn sylweddol.

"Mae’r brifysgol yn hynod o bwysig yn economaidd - i strwythur economaidd y sir a felly fe fydd yna impact ar y siopau, y busnesau yn y dref hefyd ac ar y gymuned gyfan."

Ffynhonnell y llun, David James Wood
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd yr Athro Jon Timmis ar ei rôl fel is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth fis Ionawr

Dywedodd yr Athro Jon Timmis ddydd Iau bod y brifysgol yn rhagweld y bydd yn gwario tua £15m yn fwy na'r hyn y bydd yn ennill y flwyddyn nesaf.

Dywedodd: "Rwy'n deall y bydd y cyfnod o drawsnewid sydd i ddod yn heriol i bawb sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth, ond mae'n hanfodol ar gyfer ein dyfodol wrth inni ymateb i'r pwysau ariannol sy'n effeithio ar y sector addysg uwch gyfan."

Er mwyn mynd i'r afael â'r trafferthion, bydd y brifysgol yn datblygu 'rhaglen drawsnewid', sydd â'r nod o arbed costau a buddsoddi mewn ffyrdd newydd o gynhyrchu incwm.

Dywedodd bod amgylchiadau heriol yn wynebu'r sector addysg uwch yn y DU o ganlyniad i chwyddiant uchel, ffioedd myfyrwyr domestig sydd heb gynyddu gyda chwyddiant, a chwymp mewn marchnadoedd recriwtio rhyngwladol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd dirprwy faer Aberystwyth, Maldwyn Pryse, bod y newyddion "yn creu ansicrwydd nid yn unig yn y brifysgol ond hefyd yn y dre'"

Oherwydd hyn, mae'r Athro Timmins yn dweud fod y brifysgol - sydd â thua 8,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff - angen gwneud arbedion sylweddol.

"Fel nifer o brifysgolion eraill yng Nghymru, fel rhan o'r cynlluniau i wneud arbedion, bydd y sefydliad yn cychwyn cynllun diswyddo gwirfoddol a fydd yn helpu i leihau gwariant," meddai datganiad gan y brifysgol.

Ychwanegodd fod hyn yn cael ei gyflwyno "fel rhan o'r ymdrechion i osgoi diswyddiadau gorfodol cyn belled ag sy'n bosibl".

'Y cwmwl uwch ein pennau ni'

Wrth ymateb, dywedodd dirprwy faer Aberystwyth, Maldwyn Pryse: "Dyw e ddim y fath o newyddion ma' dyn yn hoffi ei glywed ond eto i gyd ry'n ni'n ymwybodol o'r toriadau a'r heriau sy'n wynebu'r sector uwch yn Aberystwyth, Cymru a'r Deyrnas Unedig.

"Mae e wedi bod fel cwmwl ar y gorwel a mae e bellach uwch ein pennau ni.

"Mae e'n creu ansicrwydd nid yn unig yn y brifysgol ond hefyd yn y dre', yn arbennig o fewn ein busnesau ni.

"Ry'n ni'n hyderu'n fawr fel cyngor tref y bydd 'na drafodaeth agored iawn rhwng y brifysgol a'r undebau fel bod 'na gydweithio positif i wynebu'r her."

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Brifysgol Aberystwyth tua 8,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff

Yn y cyfamser mae aelodau o staff Prifysgol Caerdydd wedi cael gwybod eu bod nhw hefyd yn wynebu sefyllfa ariannol anodd, a bod y brifysgol yn wynebu diffyg o £35m eleni os nad oes newid.

Mewn e-bost at staff y brifysgol, dywedodd yr is-ganghellor Wendy Larner y bydd yn rhaid rhoi stop ar recriwtio staff newydd.

Dywedodd bod digon o arian i weithredu yn y tymor byr, ond ei bod wedi gorfod edrych am ffyrdd o gwtogi costau.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi dweud na all ddiystyru diswyddiadau gwirfoddol, ac mae disgwyl cynllun manylach fis Gorffennaf.

Y darlun ar draws Cymru

Fis diwethaf fe gyhoeddodd prifysgol arall yng Nghymru - Prifysgol Abertawe - eu bod hwythau yn torri swyddi oherwydd "heriau ariannol".

Dywedon nhw fod 189 o weithwyr wedi gwneud cais llwyddiannus am ddiswyddiad gwirfoddol ers mis Medi.

Mae Prifysgol Met Caerdydd wedi cadarnhau ddydd Gwener hefyd eu bod hwythau yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol er mwyn gwneud arbedion ariannol.

Roedd Prifysgol De Cymru eisoes wedi cyhoeddi bod ganddyn nhw gynllun diswyddiadau gwirfoddol mewn lle.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y pwysau ariannol sydd ar sefydliadau addysg uwch", gan ddweud bod "Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ymgysylltu’n rheolaidd ac yn adeiladol ag arweinwyr y sector ar hyn”.