Milwyr o Gymru'n rhan o ymarferion Nato yn Ewrop

Ymarferion Nato
Disgrifiad o’r llun,

Dyma ymarferion mwyaf Nato ar gyfandir Ewrop ers blynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Yn nwyrain Ewrop, mae milwyr o Gymru ymysg lluoedd Nato sydd yn cynnal eu hymarferion mwyaf ar y cyfandir mewn cenhedlaeth.

Mae tua 600 o filwyr catrawd y Cymry Brenhinol yn rhan o'r ymarfer yng Ngwlad Pwyl, sy'n cael ei gyfeirio ato fel Exercise Immediate Response.

Y bwriad yw dangos gallu'r gwahanol luoedd i gydweithio ac ymateb i fygythiad yn gyflym.

Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni’n barod am beth bynnag sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol," medd Terry Francis

“Dyw hi ddim yn gyfrinach pam bo' ni yma” meddai’r Uwch-sarjant Terry Francis.

Wrth gael ei holi a fyddai’r fyddin yn barod i ymateb petai Rwsia yn ymosod ymhellach i’r dwyrain nag Wcráin, dywedodd "dyma pam ‘da ni yma, dyma pam ein bod ni’n ymarfer".

"Maen nhw’n medru gweld pam ddyla' nhw ddim bygwth dod atom ni.

"'Da ni’n gwybod pam bod ni yma, 'da ni’n gwybod beth ydyn ni’n ei wneud gyda’r Americanwyr, gyda Gwlad Pwyl, gyda Nato gyfan.”

Ychwanegodd: “‘Da ni’n barod am beth bynnag sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol.”

Gyda’r rhyfel yn Wcráin yn parhau, a rhethreg gwrth-orllewinol rheolaidd yn dod o Moscow, mae cynnal ymarfer mwyaf Nato yn Ewrop ers diwedd y rhyfel oer yn arwyddocaol.

Ddydd Mawrth, dechreuodd Vladimir Putin ar bumed tymor fel arlywydd Rwsia.

Mewn araith, dywedodd fod gwledydd y gorllewin yn “parhau i fygwth” y ffordd Rwsiaidd o fyw.

Nododd hefyd y byddai'n “goresgyn pob rhwystr” i sicrhau bod Rwsia yn “ennill”.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Edward Willcox mai'r nod yw "arddangos ei gallu fel cynghrair amddiffynnol"

Doedd prif swyddog catrawd y Cymry Brenhinol, Edward Willcox, ddim yn awyddus i drafod Rwsia.

"Fyddai hi ddim yn iawn ohona'i i ddweud nad yw’r ymarferion yma’n digwydd yng nghyd-destun y rhyfel yn Wcráin, ond nid dyna yw pwrpas yr ymarfer.

"Dwi’n credu mai pwrpas yr ymarfer yw - fel mae Nato wedi ei wneud erioed - defnyddio ymarferion caled i arddangos ei gallu fel cynghrair amddiffynnol.

“Os ydyn ni, drwy hynny, yn rhoi sicrwydd i bobl bod Nato mor gryf a galluog ag yr oedd hi erioed, mae hynny’n beth da.”

'Mae e bob tro yng nghefn y pen'

Ynghyd â’r milwyr rheolaidd, mae rhai milwyr wrth gefn hefyd yn rhan o’r ymarferion yng Ngwlad Pwyl.

Ac wrth gael eu hanfon i wlad sydd yn ffinio gydag Wcráin, mae rhai yn meddwl am yr hyn allai ddigwydd petai Vladimir Putin yn troi ei olygon ymhellach i’r gorllewin.

Peiriannydd yng ngorsaf niwclear Trawsfynydd yw Peredur Jones o ran ei waith o ddydd i ddydd - ond ar hyn o bryd, mae yng Ngwlad Pwyl gyda milwyr wrth gefn eraill.

“Mae e bob tro yng nghefn y pen [y gallech chi gael eich anfon i ryfel]," meddai wrth Newyddion S4C, “ond ‘ma gennym ni dîm da, ‘da ni’n cael training da.

"Mae’n rhoi asgwrn cefn i ni, y ffaith bo' ni’n gwybod beth sydd yn mynd ymlaen. Mae hynny’n beth da.”

Erbyn diwedd y mis, bydd y Cymry Brenhinol wedi gadael Gwlad Pwyl, ond mae ymarferion Nato yn Ewrop, ar garreg drws Rwsia, yn parhau.