'Angen i'r heddlu fod yn fwy atebol' - Dem Rhydd

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal ar 2 Mai

  • Cyhoeddwyd

Mae angen i'r heddlu fod yn fwy atebol i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu, ac yn agored ynglŷn â pha mor dda y maen nhw’n gweithredu, yn ôl arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Roedd Jane Dodds yn siarad â BBC Cymru cyn yr etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, fydd yn cael eu cynnal ar 2 Mai.

Dylai heddluoedd fod yn "gwrando ar eu cymunedau", "bod yn eu cymunedau" ac yn ymateb i'w hanghenion, meddai.

Er nad ydyn nhw'n gyfrifol am redeg gwasanaeth yr heddlu o ddydd i ddydd, mae'r comisiynwyr yn gosod blaenoriaethau ar gyfer yr heddlu, a'u cyllidebau.

Mae pedwar ohonynt yng Nghymru ar gyfer pob ardal heddlu ac mae ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol, fel y prif bleidiau eraill, yn sefyll ym mhob ardal - Dyfed-Powys, Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Dywedodd Ms Dodds fod angen i'r heddlu ymateb yn well i achosion o stelcian, "a all arwain at drais pellach, ac rydym am weld gwell ymatebion ar drais yn y cartref hefyd".

Wrth nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Stelcio yr wythnos ddiwethaf, dywedodd fod angen "cydlynu aml-asiantaeth effeithiol a buddsoddi mewn hyfforddiant cynhwysfawr i'r heddlu, erlynwyr a barnwyr" er mwyn sicrhau "cyfiawnder i ddioddefwyr o'r diwedd".

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Dodds fod angen i'r heddlu ymateb yn well i achosion o stelcian

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y DU, Syr Ed Davey, wedi galw am gael gwared â Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd, gan roi'r arian sy'n cael ei arbed i "wella plismona rheng flaen".

Nid oedd Ms Dodds am ymhelaethu ar yr awgrym hwnnw yn ei chyfweliad, ond dywedodd fod y blaid yn "bryderus am yr hyn maen nhw'n ei wneud".

Wedi i gomisiynwyr gael eu hethol, ni ddylen nhw gael penodi dirprwyon anetholedig ar gost i'r cyhoedd, meddai.

Dywedodd eu bod "am weld fersiwn lai" o Gomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd.

Ar hyn o bryd mae Llafur yn dal tair o bedair swydd comisiynydd Cymru, gyda Phlaid Cymru yn dal Dyfed-Powys.

Pwy sy'n ymgeisio?

Gwent

  • Donna Cushing, Plaid Cymru

  • Mike Hamilton, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru

  • Hannah Jarvis, Ceidwadwyr Cymreig

  • Jane Mudd, Llafur Cymru

De Cymru

  • Sam Bennett, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru

  • George Carroll, Ceidwadwyr Cymreig

  • Dennis Clarke, Plaid Cymru

  • Emma Wools, Llafur Cymru

Dyfed-Powys

  • Justin Griffiths, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru

  • Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymreig

  • Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru

  • Philippa Ann Thompson, Llafur Cymru

Gogledd Cymru

  • Andy Dunbobbin, Llafur Cymru

  • Ann Griffith, Plaid Cymru

  • Brian Jones, Ceidwadwyr Cymreig

  • David Richard Marbrow, Democratiaiad Rhyddfrydol Cymru