Atal toriadau i'r celfyddydau 'o bwys cenedlaethol'

Prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru Dafydd RhysFfynhonnell y llun, Cyngor Celfyddydau Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru ydy Dafydd Rhys

  • Cyhoeddwyd

Mae’n rhaid rhoi stop ar doriadau parhaus i’r celfyddydau er mwyn trafod yr effaith ar gymunedau a phwysigrwydd diwylliant i Gymru.

Dyna farn prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n dweud bod y mater erbyn hyn "o bwys cenedlaethol".

Daw ei sylwadau yn sgil pryderon cynyddol dros y misoedd diwethaf am effaith toriadau ar ddiwylliant Cymru - gan gynnwys cwtogi cyllid Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod diwylliant, celf a chwaraeon yn "bwysig i'n cymdeithas a'n llesiant", ond bod rhaid iddynt wneud penderfyniadau "anhygoel o anodd" ynghylch cyllidebau.

'O bwys cenedlaethol'

Yn ôl Dafydd Rhys, sy’n brif weithredwr ar Gyngor Celfyddydau Cymru ers hydref 2022, mae’n rhaid i wleidyddion bwyllo er mwyn deall effaith eu penderfyniadau nhw ar gymunedau ac unigolion ar hyd a lled Cymru.

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd:

“Mae ishe ni gael y drafodaeth aeddfed yna i ddweud 'ydyn ni wir yn parchu’r celfyddydau? Ydyn ni wir yn deall beth mae'r celfyddydau yn wneud i gymunedau?'

"Mae ‘na ganolfannau celfyddydau mewn pentrefi neu drefi o gwmpas Cymru ac maen nhw’n hollbwysig i ystod eang o oedrannau - o blant bach i’r henoed.

"Maen nhw’n bwysig, maen nhw’n fannau cyfarfod - maen nhw’n cyfrannu gymaint tuag at lles cymunedol.

“Dwi jest yn meddwl bod angen cael y drafodaeth yna oherwydd gallwn ni ddim parhau blwyddyn nesa i gael toriad pellach, flwyddyn ar ôl hynny gael toriad pellach.

"Rhywsut mae’n rhaid tynnu’r handbrake yna lan a dweud stopiwch ni nawr, gadewch i ni gael y drafodaeth.”

Ychwanegodd ei bod yn bwysig hefyd rhoi ystyriaeth lawn i effaith bositif y celfyddydau ar iechyd, addysg a’r iaith Gymraeg.

'Gostyngiad o 37% ers 2010'

Mae Cyngor y Celfyddydau yn derbyn £30m gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol yma meddai Mr Rhys - o’i gymharu gyda £30m yn 2010.

Gydag effaith chwyddiant mae hyn yn doriad o 37% mewn termau real, meddai.

Yn sgil hyn fe benderfynodd y Cyngor Celfyddydau beidio cynnig grantiau i naw cwmni oedd wedi cael eu hariannu’n flynyddol ganddyn nhw, gan gynnwys National Theatre Wales, Canolfan Gelfyddydau Taliesin yn Abertawe ac Opera Canolbarth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd un o gynyrchiadau National Theatre Wales yn gadael i'r gynulleidfa dalu'r hyn roedden nhw'n gallu fforddio, ond nid yw'r cwmni'n derbyn grant eleni

Yn ogystal â’u grant gan Lywodraeth Cymru mae’r cyngor yn derbyn tua £18m gan y Loteri Genedlaethol, ac mae 90% o’u cyllid yn cael ei roi fel grantiau i ariannu cwmnïau, prosiectau ac unigolion

Dywedodd Mr Rhys ei fod yn gwerthfawrogi’r pwysau ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru a’r penderfyniadau anodd sy’n rhaid eu gwneud.

Ond ychwanegodd bod gwleidyddion yn aml yn dweud eu bod nhw’n gefnogol i’r celfyddydau, felly bod yn rhaid i’r gefnogaeth hynny gael ei adlewyrchu mewn penderfyniadau ariannol.

Dywedodd: “Mae’n fater, dwi’n meddwl, o bwys cenedlaethol nawr bod ni’n ystyried lle ni’n gosod y celfyddydau fel cenedl oherwydd mae’n bwysig iawn dwi’n meddwl fod Llywodraeth Cymru ac Aelodau’r Senedd yn deall sut maen nhw’n cytuno ar gyllidebau ac oblygiadau hynny.”

'Penderfyniadau anhygoel o anodd'

Mewn ymateb i sylwadau Mr Rhys dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn bwysig i'n cymdeithas a'n llesiant.

"Bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anhygoel o anodd am fod ein cyllideb ar gyfer 2024-25 bellach werth £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod gan Lywodraeth y DU yn 2021.

"Rydym yn ddiolchgar i staff cyrff hyd braich fel Cyngor Celfyddydau Cymru am eu gwaith pwysig a'r manteision mae eu gwaith yn eu cynnig i bobl Cymru.

"Rydym yn ymwybodol eu bod wedi gweithio'n gyflym i liniaru'r effaith ar y sector celfyddydau ehangach."