Lluniau: Streic y Glowyr a Thatcher

Mae Richard Williams ac Amanda Powell wedi cyhoeddi llyfr newydd am streic y glowyrFfynhonnell y llun, Richard Williams photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Williams ac Amanda Powell wedi cyhoeddi llyfr newydd am streic y glowyr

  • Cyhoeddwyd

Mae lluniau o gyfnod streic y glowyr gan gynnwys lluniau o wyau'n cael eu taflu ar y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, yn ystod ei hymweliad i Borthcawl wedi dod i'r fei am y tro cyntaf.

Mae Richard Williams, o Gaerdydd, wedi bod yn ffotograffydd i bapurau newydd ers ei arddegau.

Bellach mae Richard a'i wraig, y newyddiadurwraig Amanda Powell , wedi cyhoeddi cyfrol sy'n "creu cofnod" o streic y glowyr a gychwynnodd 40 mlynedd yn ôl i eleni.

Mae'r gyfrol Coal and Community in Wales – Images of the Miners’ Strike: Before, During and After yn cynnwys lluniau gan Richard o'r cyfnod a hefyd straeon personol rhai o'r bobl sy'n ymddangos yn y lluniau.

Dyma luniau o gasgliad Richard sy'n dogfennu'r cyfnod cythryblus i gymunedau glofaol de Cymru. Dyma'r tro cyntaf i rai o'r lluniau ymddangos yn gyhoeddus.

Diwrnod olaf ym Mhwll Glo Coegnant

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Y diwrnod olaf yn yr ystafell lampau cyn i Bwll Glo Coegnant gau yn 1981, dair blynedd cyn cychwyn Streic y Glowyr yn 1984

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Y shifft olaf yn yr ystafell lampau i'r glöwr yma ym Mhwll Glo Coegnant ger Maesteg

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mynd dan ddaear yn y gell am y tro olaf ym Mhwll Glo Coegnant

Protestio a streicio ym Mlaengarw

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Yr heddlu'n rhwystro Monty Morgan mewn protest yn erbyn streicio ym Mlaengarw. Monty oedd y glöwr cyntaf i dorri'r streic yn 1984

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Glowyr yn gwrthdaro. Monty Morgan (chwith) yn wynebu ei gyd-weithwyr ym Mhwll Glo Garw ar ôl torri'r streic

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Y gymuned yn gorymdeithio yn 1985 ar ôl i'r glowyr ddychwelyd i'w gwaith ym Mhwll Glo Garw/Ffaldau

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Jeff Jones o bwyllgor NUM yn ceisio rhwystro bws oedd yn cario glowyr oedd yn streicio ac yn gadael pwll Garw/Ffaldau

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr o flaen Pwll Glo Garw/Ffaldau ar 9 Awst 1984

Ymweliad Margaret Thatcher â Phorthcawl

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Mehefin 1984, aeth y Prif Weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, i gynhadledd y blaid Geidwadol yn y Grand Pavilion a gorsaf yr RNLI ym Mhorthcawl

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Ond doedd dim croeso iddi gan nifer o gefnogwyr Streic y Glöwyr

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr yn codi eu llais yn erbyn cynlluniau Margaret Thatcher a'i llywodraeth i gau nifer sylweddol o byllau glo

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymbarél ddu yn gwarchod Margaret Thatcher rhag yr wyau oedd yn cael eu taflu ati wrth iddi gerdded i mewn i'r Grand Pavilion ym Mhorthcawl

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Ond doedd pawb ddim yn taflu wyau... roedd yna groeso iddi hefyd...

Ffynhonnell y llun, Richard Williams Photography
Disgrifiad o’r llun,

Paratoi ar gyfer ymweliad Margaret Thatcher i Borthcawl... sgwn i be' sy'n cael ei wneud?