Rob a Ryan am weld y Cae Ras yn dal hyd at 55,000

Y Cae RasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd y Cae Ras yn dal tua 15,600 o bobl unwaith y bydd y 'Kop' newydd wedi ei gwlbhau

  • Cyhoeddwyd

Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dweud y hoffen nhw weld y Cae Ras yn dal cymaint â 55,000 o gefnogwyr yn y tymor hir.

Mae'r Dreigiau eisoes yn y broses o greu eisteddle newydd gyda 5,500 o seddi, gan ddisodli'r hen 'Kop' sydd heb gael ei ddefnyddio ers 2007.

Ond yn dilyn oedi yn y broses adeiladu, mae eisteddle dros dro gyda 2,289 o seddi wedi ei osod yno dros dro.

Dywedodd Ryan Reynolds a Rob McElhenney mai'r nod yn y tymor hir yw cynyddu'r capasiti i rhwng 45,000-55,000 fel bod modd i'r "dref gyfan ddod i'r gêm".

Y nod yn y pendraw, yn ôl McElhenney, yw gweithio ar un eisteddle ar y tro tan fod y stadiwm i gyd wedi ei ddatblygu.

"Mae hi'n anodd dweud yn bendant, ond ry'n ni'n meddwl y gallwn ni gael rhwng 45,000-55,000 o bobl yno," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r perchnogion yn dweud bod yr holl fiwrocraiaeth yn y broses adeiladu wedi bod yn rhwystredig

Mae Wrecsam wedi sicrhau dyrchafiad am yr ail dymor yn olynol ar ôl gorffen yn yr ail safle yn Adran Dau.

Y gobaith yn wreiddiol oedd y byddai'r eisteddle newydd y Kop yn barod erbyn dechrau tymor 2024-25.

Ond mae ffactorau gwahanol wedi arwain at ohirio'r cynlluniau, sy'n golygu na fydd yna eisteddle newydd lawn i groesawu tîm Phil Parkinson yn ôl i Adran Un.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Wrecsam sicrhau dyrchafiad i Adran Un ar ôl gorffen yn ail yn y tabl

Yn ôl Reynolds, biwrocratiaeth yw'r broblem fwyaf.

"Dwi'n byw yn Efrog Newydd, mae Rob yn byw yn LA, ac mae'r diwydiant adeiladu yn wahanol iawn yno.

"Yng Nghymru mae 'na lot o wahanol reolau a gwaith papur, ac mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n ticio'r holl focsys yna, ac yn cadw pawb yn hapus."

Ychwanegodd McElhenney: "Mae o'n anhygoel pa mor aml ry'n ni'n goro delio â'r holl fiwrocratiaeth yma. Mae o bron wedi mynd yn jôc yn y gyfres.

"Wrth gwrs, mae rheolau diogelwch a'r holl reoliadau o ran hynny wedi cael eu gosod am reswm, ond mae 'na rai pethau yn teimlo fel eu bod nhw'n gosod rhwystrau o'n blaenau heb unrhyw reswm amlwg.

"O'r hyn yr wyf i wedi ei weld, mae hi'n lawer anoddach adeiladu yn y Deyrnas Unedig nag unrhyw le arall yn y byd!"