Siom wrth i elusen gau ei swydd olaf yng Nghymru

Plant sydd wedi derbyn cymorth TearfundFfynhonnell y llun, Tearfund
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Gristnogol Tearfund yn gweithio i ddileu tlodi mewn 50 o wledydd ar draws y byd

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod o'r Senedd a chyn-gyfarwyddwr wedi beirniadu elusen Gristnogol am ddileu ei holl swyddi Cymreig.

Tair blynedd yn ôl roedd pedwar person yn gweithio i Tearfund yng Nghymru.

Ar ôl proses ailstrwythuro, maen nhw nawr yn cael gwared ar yr aelod olaf o staff yma.

Dywed Tearfund eu bod wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd" oherwydd eu sefyllfa ariannol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad wedi siomi Hywel Meredydd Davies, cyn-gadeirydd a chyn-gyfarwyddwr Tearfund Cymru

Elusen Gristnogol yw Tearfund, sy'n gweithio i ddileu tlodi mewn 50 o wledydd ar draws y byd.

Maen nhw'n cyflogi staff yng Nghymru ers 1987.

Yn ôl Hywel Meredydd Davies, cyn-gadeirydd a chyn-gyfarwyddwr Tearfund Cymru, mae'r penderfyniad yn siomedig.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Wrth gwrs mae gan Tearfund yr hawl i benderfynu, fel maen nhw wedi gwneud yn barod, yn dawel ac heb adael i'w gwirfoddolwyr a chefnogwyr wybod, eu bod nhw wedi dileu swyddi yng Nghymru.

"Dyna eu penderfyniad nhw.

"Ond ar yr un pryd, maen nhw'n elusen Gristnogol sydd o blaid y gwan.

"A phan maen nhw'n ceisio hyrwyddo gwledydd gwan a rhoi rhyddid iddyn nhw wneud penderfyniadau, siawns y dylian nhw gefnogi gwlad lai ym Mhrydain a rhoi iddi'r chwarae teg mae'n ei haeddu?"

'Anghyfartaledd ac annhegwch'

Mae Newyddion S4C yn deall i'r elusen godi dros £1m yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Tra bod yr unig swydd oedd ar ôl yma nawr yn cael ei thorri, bydd cynrychiolwyr cyflogedig yn parhau gan Tearfund ym mhob gwlad arall o fewn i'r Deyrnas Unedig - penderfyniad sy'n codi gwrychyn Hywel Meredydd Davies.

"Mae Tearfund wedi trin pedair gwlad Prydain Fawr yn gyfartal [yn y gorffennol] ond mae'r ffaith bod nhw yn dileu swyddi yng Nghymru yn dangos anghyfartaledd ac annhegwch.

"Byddwn i'n meddwl, o ran galwad i ailystyried, bod [angen iddyn] nhw sicrhau, fel sydd wedi bod ers degawdau, bresenoldeb cryf iawn yn y Gymry Gymraeg ac yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Peredur Owen Griffiths yn ofni y bydd yr elfen Gymreig ar goll yng ngwaith yr elusen o hyn ymlaen

Roedd yr Aelod o'r Senedd Peredur Owen Griffiths yn gweithio i elusen Cymorth Cristngol cyn camu i'r byd gwleidyddol.

Mae e hefyd yn galw ar Tearfund i ailystyried.

"Mae gan y gymuned Gristnogol yng Nghymru, sydd yn cefnogi Tearfund ac elusennau eraill, galon anferth at y gwaith sydd yn cael ei wneud ar draws y byd," dywedodd.

"Byddai ailgyflogi rhywun yng Nghymru yn dangos bod Tearfund yn cymryd ein pobl ni o ddifrif ac hefyd yn cymryd ein hiaith o ddifrif.

"Dyna dwi'n boeni yw bod yr iaith Gymraeg mynd i gael ei cholli o'r mudiad a byddai hynny yn rhywbeth hynod o drist."

'Parhau i gefnogi Cymru'

Dywedodd Tearfund eu bod nhw'n ddiolchgar i'w holl gefnogwyr yng Nghymru, gan ddweud y byddan nhw'n "parhau i gefnogi Cymru drwy aelodau eraill o staff a gwirfoddolwyr".

Maen nhw'n nodi hefyd bod rhai o'r gwirfoddolwyr hynny yn siaradwyr Cymraeg.

Ychwanegodd llefarydd mewn datganiad: "Rydyn ni'n poeni'n fawr am bawb sydd yn gweithio i Tearfund ac am edrych ar eu holau nhw i gyd, ond mae gennym hefyd gyfrifoldeb i ofalu am arian ein cefnogwyr gan sicrhau ein bod mewn lle da i barhau â'n gwaith chwyldroadol ym mhedwar ban byd."

Pynciau Cysylltiedig