Wynne Evans: 'Ers dros 10 mlynedd, dwi’n stryglo'

Disgrifiad,

Mae'r cyflwynydd Wynne Evans wedi bod yn siarad am ei brofiadau ef gydag iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd

Mae’r cyflwynydd a’r canwr opera Wynne Evans yn dweud bod "ymarfer corff wedi newid fy mywyd".

A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Wynne, 52, wedi bod yn siarad am ei brofiadau.

“Ar hyn o bryd, dwi’n OK,” meddai, ar ôl gorffen cyflwyno’i raglen foreol ar BBC Radio Wales, “ond ers dros 10 mlynedd, dwi’n stryglo".

Pan ddaeth ei briodas i ben yn 2016, dechreuodd brofi iselder difrifol.

“Ro’n i’n teimlo ar ben fy hun, yn methu gweld fy mhlant o hyd, ac fe es i le tywyll iawn, iawn.”

Mae’n cyfaddef ei fod wedi hel meddyliau tywyll iawn nad oedd eisiau cario ymlaen.

“Dyna wir oedd rock bottom i fi ac roedd rhaid cyrraedd rock bottom cyn meddwl bod angen newid pethau,” meddai.

Ar ôl gweld seiciatrydd fe ddechreuodd gwrs o feddyginiaeth at ei iselder a gorbryder, ond ymarfer corff sydd wedi newid ei iechyd meddwl, a hynny er gwell.

Ffynhonnell y llun, Ian Forsyth/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Wynne Evans i amlygrwydd yn wreiddiol fel canwr opera

Themâu Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni ydi “symudiad” gyda’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn annog pobl i wneud ymarfer corff ar gyfer llesiant.

Un o’r pethau sydd wedi helpu Wynne yn bersonol yw ymarfer corff a bod allan yn yr awyr agored.

“Mae’n anodd jesd i ddechrau achos mae’n haws i eiste' lawr, gwylio’r teledu, a gwneud dim byd, ond un diwrnod meddyliais: ‘mae jesd yn amser i ddechrau’.”

“Brynes i feic Peloton a treadmill ar gyfer y tŷ a dechrau o hynny really, a nawr wy’n teimlo’n grêt.”

Disgrifiad o’r llun,

Wynne Evans oedd enillydd y rhaglen Celebrity Masterchef y llynedd

Mae Wynne, enillodd y gyfres goginio Celebrity Masterchef y llynedd, wedi newid ei ddeiet yn sylweddol hefyd.

“Fi ‘di colli rhyw saith stôn erbyn hyn,” meddai.

“Mae siarad yn bwysig, ond y peth mwya’ pwysig yn y diwedd, ydy jesd rhedeg.

“Mae’n ddiddorol - weithiau dwi’n teimlo’n really ddrwg ar ôl siarad am iechyd meddwl, achos mae’n dod â’r atgofion yn ôl, fel ail-fyw'r dyddiau drwg.

“Ond nawr dwi mewn lle gwahanol a dwi’n barod i siarad efo pobl drwy’r dydd ar fy rhaglen Radio Wales. Mae’n neis i siarad efo pobl!”

'Mae’n neis i rannu'

Ei gyngor i bobl eraill sydd yn profi iselder a gorbryder yw i rannu eu teimladau.

“Mae’n neis i siarad gyda fy nghydweithwyr - mae’n neis i rannu!

“Ro’n i’n poeni yn y dechrau am sut fyddai pobl eraill yn ymateb, ond ar ôl meddwl, eu problem nhw ydy hynny, nid fy un i.

“Dwi’n galw’r anxiety yn superpower a dweud y gwir, gan fy mod i wedi gorfeddwl am bob dim posib allai fynd o’i le wrth gyflwyno rhaglen radio byw, so dwi’n gwybod yn union sut i ymateb os ydi pethau yn mynd yn wrong!”

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan BBC Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.