Pam fod Taylor Swift yn cyfeirio at y bardd Dylan Thomas?

Taylor Swift a Dylan Thomas
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gantores fyd-enwog, Taylor Swift, wedi rhyddhau albwm newydd, The Tortured Poets Department.

Er bod ei chefnogwyr ond yn credu mai tua 15 o ganeuon fyddai'n cael eu rhyddhau fore Gwener, fe wnaeth y gantores gyhoeddi albwm ddwbl, sy'n cynnwys dros 30 o ganeuon.

Un o'r pethau sydd wedi dal sylw'r Cymry yw'r geiriau sy'n cyfeirio at y bardd a'r awdur, Dylan Thomas: "You're not Dylan Thomas. I'm not Patti Smith. This ain't the Chelsea Hotel. We're modern idiots."

Ond pam fod Taylor Swift yn cyfeirio at y bardd o Gymru?

Love Story rhwng Taylor Swift a Dylan Thomas

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Martha Owen, sy'n ffan mawr o Taylor Swift, ei bod wedi sicrhau fod ganddi ddiwrnod i ffwrdd o'r gwaith heddiw "er mwyn i fi ddeffro'n fuan a gwrando ar yr albwm i gyd".

Dywedodd fod Taylor Swift "wedi bod yn rhan o'n bywyd ni ers o ni yn ein harddegau ni ac mae 'di rhyddhau cymaint o albyms ac maen nhw gyd mewn ffordd yn ein hatgoffa ni o amser penodol o'n bywyd ni, so mae'n exciting meddwl fod hwn am atgoffa ni o'n amser yma o'n bywyd ni."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Martha Owen (ar y dde) gyda'i ffrindiau

Wrth drafod y caneuon newydd, dywedodd ei bod yn "rili licio fo hyd yn hyn, pob trac yn bangar!"

Ond dywedodd Martha mai un o'r pethau pwysicaf yng nghaneuon Taylor Swift yw'r geiriau.

"Mae 'di cyfeirio at Wicklow yn Iwerddon a Llundain ond byth 'di cyfeirio at Gymru felly nes i a'n ffrindie i super exceitio am hynny."

Pwy oedd Dylan Thomas?

Mae Dylan Thomas yn cael ei adnabod fel un o feirdd gorau yn hanes Cymru.

Un o'i weithiau enwocaf oedd y ddrama radio 'Under Milk Wood'.

Cafodd ei eni yn Abertawe yn 1914 a bu farw yn 1953 yng Ngwesty'r Chelsea Hotel yn Efrog Newydd ag yntau ond yn 39 oed tra ar daith.

Mae Taylor Swift hefyd yn cyfeirio at y gwesty yn y gân.

Fe ysbrydolodd Dylan Thomas sêr cerddorol fel Bob Dylan a The Beatles.

Erbyn 1940, daeth yn amlwg gyda'r BBC, yn ysgrifennu sgriptiau, darllen barddoniaeth a straeon byrion yn ogystal ag actio.

Bu'n byw gyda'i wraig, Caitlin Macnamara, a'i blant yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.

Bydd Taylor Swift yn ymweld â Chymru fel rhan o'i thaith fis Mehefin, yn Stadiwm y Principality.

Tybed os fydd hi'n ymweld â chartref Dylan Thomas yn ystod ei chyfnod yng Nghymru?

Pynciau Cysylltiedig