Cyn-faer yn pledio'n euog i greu lluniau anweddus o blant

Terry Judkins
Disgrifiad o’r llun,

Terry Judkins oedd maer Doc Penfro rhwng Mai a Thachwedd 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-faer Doc Penfro wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad o greu a chadw lluniau anweddus o blant.

Fe wnaeth Terry Judkins, 55, bledio'n ddieuog i gyhuddiad o gael lluniau pornograffig eithafol yn ei feddiant.

Bydd yn cyflwyno ple ar gyfer pedwerydd cyhuddiad ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.

Honnir bod y digwyddiadau wedi cymryd lle rhwng Medi 2015 ag Awst 2021.

Cafodd y gwrandawiad ei ohirio a bydd yn ymddangos nesaf fis Mehefin.

Judkins oedd maer Doc Penfro rhwng Mai a Thachwedd 2021.

Pynciau Cysylltiedig