Taylor Swift: Ticketmaster yn ymddiheuro i fam mewn cadair olwyn

Disgrifiad,

Taylor Swift: Ticketmaster yn ymddiheuro i fam mewn cadair olwyn

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Ticketmaster wedi ymddiheuro i fenyw anabl o Geredigion am y ffordd ddelion nhw â'i chais am docynnau i wylio Taylor Swift yn Stadiwm Principality.

Roedd Cat Dafydd, sy'n defnyddio cadair olwyn, wedi ceisio prynu tocynnau iddi hi a'i dwy ferch ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerdydd fis nesaf.

Ond cafodd wybod nad oedd yn bosib iddi brynu mwy nag un tocyn ychwanegol oherwydd eu polisi hygyrchedd (accessibility).

Fe wnaeth BBC Cymru Fyw gais am sylw i Ticketmaster, sydd bellach wedi ymddiheuro wrth Ms Dafydd ac wedi rhoi tri thocyn am ddim iddi ar gyfer y cyngerdd ar 18 Mehefin.

Mae'r cwmni yn cyfaddef nad oedden nhw wedi delio gydag achos Ms Dafydd "i'r safonau rydym yn gosod i'n hunain".

Cadarnhaodd Ticketmaster nad yw eu polisi hygyrchedd wedi newid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Taylor Swift - un o artistiaid mwyaf poblogaidd y byd pop - yn dod i Gaerdydd fis nesaf fel rhan o'i Eras Tour

Dywedodd Ms Dafydd: "Mae'n rhaid nhw bod yn hyblyg gyda polisi nhw.

"Does ddim one size fits all i anabledd."

Dywedodd mai "discrimination yw e os dwi ffili, gyda anabledd, prynu mwy nag un tocyn".

"Dwi ffili mynd gyda fy merched ond os doedd ddim anabledd gen i fydden i'n gallu gwneud e.

"Oherwydd does ddim modd i mi fod yn fam a mynd a fy nwy plentyn gyda fi, mae e'n gwneud i mi deimlo fel does ddim gwerth gyda fi.

"Maen nhw wedi cael y polisi 'ma, mae'n ddu a gwyn a dyna fe a does dim plygu o gwbl, a dyw e ddim yn iawn."

'Anwybyddu' e-byst

Fe gysylltodd Ms Dafydd gyda Ticketmaster cyn i'r tocynnau fynd ar werth ar eu gwefan nhw ym mis Gorffennaf y llynedd.

Er bod cwsmeriaid eraill yn Stadiwm Principality yn gallu prynu hyd at bedwar tocyn yr un, o dan bolisi'r gwerthwyr tocynnau roedd Ms Dafydd ond yn gallu prynu un tocyn hygyrch gyda thocyn am ddim i ofalwr.

Fe anfonodd Ms Dafydd lythyr at y cwmni ym mis Mehefin 2023 yn cwyno am y polisi.

Ond honnodd bod Ticketmaster wedi ei "anwybyddu e'n llwyr".

Mae Ticketmaster wedi ymddiheuro i Ms Dafydd ac wedi cynnig tri thocyn am ddim iddi ar gyfer y cyngerdd yng Nghaerdydd - bron i 11 mis ers iddi gysylltu gyda'r cwmni am y tro cyntaf.

Mewn datganiad, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Ticketmaster, Andrew Parsons: "Rydym yn cymryd hygyrchedd o ddifri a bob tro'n gweithio gyda lleoliadau a hyrwyddwyr i gydlynu ceisiadau ble mae'n bosib.

"Rydym yn ymddiheuro i Ms Dafydd ac yn falch bod y sefyllfa wedi ei ddatrys."

Ar ôl methu cael y tocynnau i'r sioe yng Nghaerdydd, fe benderfynodd Ms Dafydd dalu £1,800 am dri thocyn drwy wefan arall i wylio Taylor Swift yn Lyon, Ffrainc.

Mae Ms Dafydd yn cydnabod fod hynny wedi bod yn "ffordd ddrud ofnadwy" o sicrhau tocynnau i'w merched - Gwenllian, 12 ac Elliw, 11.

Ychwanegodd: "Rwy'n falch bod Ticketmaster wedi ymddiheuro a'u bod yn cydnabod nad oedd fy mhrofiad gyda'u gwasanaeth mynediad yr hyn y ddylai wedi bod."

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Dafydd yn credu ddylai polisi hygyrchedd Ticketmaster newid

Mae Ms Dafydd wedi bod yn defnyddio cadair olwyn ers cael niwed i fadruddyn y cefn ar ôl syrthio 10 mlynedd yn ôl.

Dywedodd: "Cyn ges i y damwain a bod yn anabl, doedd ddim clem 'da fi pa mor anodd oedd e i jyst bod yn anabl.

"Do'n i ddim yn sylwi pa mor anodd oedd e i mynd i lefydd.

"Mae'n rhaid neidio trwy sawl hoops i jyst brynu tocynnau."

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elin Williams bod diffyg ystyriaeth i hygyrchedd yn "broblem enfawr"

Dywedodd Elin Williams, sydd yn gweithio i Anabledd Cymru: "Yn eironig, nid yw'r broses o brynu tocynnau hygyrch yn hygyrch iawn.

"Dydy Ticketmaster ei hun ddim yn hygyrch ofnadwy oherwydd dwi'n defnyddio darllenydd sgrin a dydi'r map sydd yn dangos yr opsiynau tocynnau ar Ticketmaster ddim yn hygyrch efo hwnna.

"Dydi hygyrchedd yn aml iawn ddim ar dop y rhestr blaenoriaeth a mae hynna yn broblem enfawr.

"Mae'n golygu bod pobl anabl yn colli allan yn aml iawn ar y profiadau bywyd yma, a gallu mwynhau y profiad yr un fath â phawb arall."

Mewn datganiad, dywedodd rheolwr Stadiwm Principality Mark Williams: " Rydym yn deall siom fans cerddoriaeth oedd yn aflwyddiannus yn cael tocynnau i'r cyngerdd yma.

Ein rôl ni del lleoliad cynnal y digwyddiad yw gweithio mewn partneriaeth a hyrwyddwyr a gweithredwyr tocynnau i gynnal profiad diogel a llawn mwynhad i'r holl fans bydd yn ymweld â'r stadiwm."

Pynciau Cysylltiedig