Pryder wrth i feddygfa Tyddewi ddychwelyd ei chytundeb

Disgrifiad,

Aeth John George yn emosiynol yn trafod y mater gyda'n gohebydd Elen Davies

  • Cyhoeddwyd

Mae meddygfa yng ngogledd Sir Benfro wedi rhoi’r gorau i’w chytundeb gyda’r bwrdd iechyd.

Gyda 2,700 o gleifion wedi’u cofrestru ym Meddygfa Dewi Sant, Tyddewi, gwnaed y penderfyniad i roi’r cytundeb yn ôl gan y partner meddyg teulu.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd y gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel yr arfer am rai misoedd eto, cyn y bydd penderfyniad ar ddyfodol y feddygfa.

Dyma fydd y bedwaredd feddygfa i roi eu cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn ôl o fewn y bwrdd iechyd ers 2022.

Mae'r Aelod Seneddol dros etholaeth Preseli Penfro, Paul Davies yn galw am dryloywder gan y bwrdd iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 2,700 o gleifion wedi’u cofrestru ym Meddygfa Dewi Sant, Tyddewi

Wedi byw yn Nhyddewi am y rhan fwyaf o’i oes, mae John George, 88, yn poeni’n arw am ddyfodol Meddygfa Dewi Sant, gyda’i feddygfa ef yn Solfach wedi wynebu sefyllfa debyg yn ddiweddar.

“Beth sy’n mynd i ddigwydd i Dyddewi?

"Dwi’n gwybod does ganddon ni ddim fawr iawn, ond beth sy’n mynd i ddigwydd yma?

"Beth am y bobl hen a’r bobl sy’n sâl? Pobl sy’n ffaelu mynd, dim car, dim lot o fws nawr ar hyn o bryd. Lle ma’ nhw’n mynd i fynd?”

Bydd gwasanaethau meddygon teulu Meddygfa Dewi Sant yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal tan ddiwedd mis Hydref 2024.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynghori cleifion i barhau’n gofrestredig gyda’r practis tra bod cynlluniau tymor hir yn cael eu datblygu.

'Lot o bobl yn dŵad ‘ma'

“Dwi’n gobeithio fyddan nhw’n ystyried hynny yn galed. Ma’ nhw wedi ‘neud e'n Solfach ond sai’n gwybod am faint,” meddai Mr George.

“Mae e’n bwysig iawn achos mae e’n 15 milltir i Hwlffordd neu i Abergwaun.

“Ges i pwl dwy flynedd yn ôl a sai’n reit ers hynny a ma’ long Covid gyda fi. Dwi’n gorfod mynd at y meddyg…

"Ma' lot, lot, lot o bobl yn dŵad 'ma. Maen nhw yma ar wyliau, maen nhw 'ma drwy’r amser.

"Mae’r meddyg siŵr o fod yn fishi, fishi, fishi. R’un peth â Solfach.

"Ni’n mynd yn hŷn. Mae’r pwysau yn mynd arnon ni.”

Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwasanaethau meddygon teulu y feddygfa yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal tan ddiwedd mis Hydref 2024

Yn ôl Meddygfa Dewi Sant, cafodd y penderfyniad i ymddiswyddo o’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ei wneud gan eu Partner Meddyg Teulu, sy’n gweithio ar ei ben ei hun.

Dyma fydd y bedwaredd feddygfa i roi eu cytundeb yn ôl o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda ers 2022.

Y rhai eraill yw Meddygfa Neyland a Johnston, Meddygfa Solfach a Meddygfa Cross Hands a Thymbl.

'Anodd iawn denu pobl yma'

Wedi byw yn Nhyddewi ers 45 o flynyddoedd, yr hyn fydd yn digwydd ar ôl mis Hydref yw pryder pennaf Michael Grange, 76.

“Dwi’n credu fydd wastad meddygfa yma,” meddai, “ond mae’n well i gael person parhaol yma yn hytrach na chyfres o locums, sef y ffordd mae pethau’n mynd ar hyn o bryd.

"Mae’n anodd iawn i ddenu pobl yma.”

Disgrifiad o’r llun,

Yr hyn fydd yn digwydd ar ôl mis Hydref yw pryder pennaf Michael Grange sy’n 76 oed

I'r Aelod o'r Senedd dros Breseli Penfro, Paul Davies, mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd roi sicrwydd nawr i gleifion a’r gymuned ehangach.

“Beth mae’r cleifion eisiau ei weld yw tryloywder oddi wrth y bwrdd iechyd i wybod beth sydd yn mynd i ddigwydd nesaf,” meddai.

“Dwi’n gwybod maen nhw wedi dweud fe fydd y gwasanaethau yma yn parhau o leiaf tan yr Hydref, ond mae’n rhaid i ni wybod beth sy’n mynd i ddigwydd wedyn.

"Dyna beth mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd lleol ddweud wrth y gymuned ac wrthon ni gyd.

"Dyna pam mae hi mor bwysig nawr bod y bwrdd iechyd lleol yn cynllunio ymlaen, ac mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau bod nhw’n gwneud hynny.”

'Cyfnod heriol'

Dywedodd Jill Paterson, cyfarwyddwr gofal sylfaenol, cymunedol a hirdymor Hywel Dda: “Byddwn yn gweithio’n agos gyda Meddygfa Dewi Sant a’r clwstwr ehangach i ddod o hyd i’r ffordd orau o sicrhau gwasanaethau i gleifion.

“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth barhaus a roddir gan y gymuned i’r tîm ym Meddygfa Dewi Sant trwy gydol y cyfnod heriol hwn.”

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda, mi fyddan nhw’n ysgrifennu at yr holl gleifion sydd wedi cofrestru ym Meddygfa Dewi Sant i roi gwybod iddynt am y sefyllfa.

Maen nhw hefyd yn addo cyfle i gleifion a’r gymuned leol rannu eu barn ynglŷn â darpariaeth hirdymor ar gyfer y gwasanaeth cyn bod unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud.

Galw ar y llywodraeth i wneud mwy

Ond galw ar Lywodraeth Cymru i gamu i’r adwy mae BMA Cymru.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod difrifoldeb y sefyllfa ac i weithredu,” meddai cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru, Dr Gareth Oelmann.

“Mae buddsoddi mewn ymarfer cyffredinol (general practice) yn ymrwymiad i iechyd a lles pob dinesydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel y duedd ledled y DU, mae newid tuag at feddygfeydd mwy, gyda chymysgedd ehangach o weithwyr proffesiynol mewn un lleoliad, yn darparu amrywiaeth fwy o wasanaethau.

"Mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru yn parhau'n sefydlog, gyda chynnydd mewn staff meddygfa ehangach yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Rydym yn gweithio i leihau'r pwysau ar feddygon teulu, drwy gyflwyno GIG 111 Cymru a chynyddu'r gwasanaethau mae fferyllfeydd cymunedol yn eu darparu.

"Mae diwygiadau i gontractau meddygon teulu wedi helpu i leihau biwrocratiaeth a rhyddhau mwy o amser i feddygon teulu weld cleifion."

Pynciau Cysylltiedig