Cerdded milltiroedd i godi arian i wledydd tlawd

Llinos RobertsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn gynharach eleni fe gerddodd Llinos Roberts o amgylch chwech o lynnoedd Cymru i godi ymwybyddiaeth am brosiect Ffynhonnau Byw

  • Cyhoeddwyd

Dyw 'sgidiau cerdded Llinos Roberts o Drefor ddim yn segur am hir, wrth iddi gerdded milltiroedd lawer i godi arian i wledydd tlawd y byd.

Ym mis Mai mae hi a nifer eraill wedi ymrwymo i gerdded 70k fel rhan o apêl 70k in May Cymorth Cristnogol.

Mae apêl eleni – sy’n digwydd rhwng 12 a 18 Mai – yn canolbwyntio ar waith Cymorth Cristnogol yn Burundi, un o’r gwledydd mwyaf dwys o ran ei phoblogaeth ac un o'r tlotaf yn Affrica.

"Dwi eisoes wedi cerdded Llwybr Mawddach, ffordd y porthmyn o Benmachno i Ysbyty Ifan, Llwybr Ardudwy uwchben y Bermo a dwi ar fy ffordd i Langollen, ac mae gen i 44k ar ôl," meddai Llinos wrth siarad â Cymru Fyw.

"Mae cerdded yn ffordd hwyliog o godi ymwybyddiaeth am gyflwr gwledydd tlawd - mae rhai yn beicio, eraill yn rhedeg, ond cerdded ydw i."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos wedi bod yn codi ymwybyddiaeth a chefnogi gwledydd tlawd ers yn ifanc

Yn gynharach eleni fe gerddodd Llinos o amgylch chwe llyn yng Nghymru fel rhan o brosiect Ffynhonnau Byw Undeb Annibynwyr Cymru.

"Roedd hi'n wych cael cerdded o amgylch llynnoedd Idwal, Ogwen, Padarn, Cowlyd, Tegid a llyn Trawsfynydd, ac yn addas fy mod i'n dewis llynnoedd dwi'n meddwl, gan mai nod y prosiect yw tynnu sylw at wenwyno ffynhonnau yn Colombia gan ffatrïoedd a gwaith glo brig."

Drwy gydol wythnos nesaf bydd sylw arbennig yn cael ei roi gan Cymorth Cristnogol i Burundi - mae dros 70% o’r boblogaeth yn byw mewn tlodi a thros hanner y plant â diffyg maeth cronig.

"Mae'r wlad hefyd yn amharod iawn i daclo effeithiau newid hinsawdd gan gynnwys sychder, llifogydd a thirlithriadau ac er mai merched sydd gan fwyaf yn byw yn y wlad, yn sgil rhyfel cartref, dyw eu llais ddim yn cael ei glywed," ychwanega Llinos.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Weithiau mae eraill yn ymuno â Llinos ar ei theithiau

Mae cefnogi a chodi ymwybyddiaeth am wledydd tlawd wedi bod yn bwysig iawn i Llinos ers yn ifanc.

"Pan yn ifanc roeddwn yn gwirfoddoli i Cymorth Cristnogol a thra'n gweithio i'r Urdd cefais y fraint o fynd i Calcutta a dwi hefyd wedi bod yn Sierra Leone," meddai.

"Roedd y daith i Sierra Leone yn arbennig iawn yn 2011 gan mai taith i gasglu deunydd ar gyfer adnoddau Wythnos Cymorth Cristnogol 2012 oedd hi.

"Roedd sicrwydd bwyd yn broblem yno a'r rhyfel cartref yn golygu nad oedd y tir wedi ei drin ers 30 mlynedd.

"Felly roedd pwyslais y prosiect ar dyfu bwyd maethlon ond hefyd ei brosesu er mwyn ei gadw a rhoi hyd bywyd hirach iddo - er enghraifft sychu llysiau a mygu pysgod mewn popty mwg.

"Roedd y gymuned, oedd ar lan afon fawr, wedi cael cwch pren cadarn er mwyn medru pysgota’n saff ac hefyd wedi cael siacedi achub ac roedd y dynion yn gwisgo’r siacedi drwy’r dydd - roedden nhw mor falch ohonyn nhw.

"Ges i gyfle yn yr ysgol gynradd i ddysgu caneuon Cymraeg i’r plant ac roedden nhw wrth eu bodd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Ychwanegodd bod ei phrofiad yn Calcutta ymhlith plant a phobl ifanc yn y slymiau wedi dod â stori merch o India yn fyw tra'r roedd hi'n gwirfoddoli fel athrawes Cymorth Cristnogol yng Nghymru.

"Roedd pecyn arbennig am Shompa o India, sef hanes bywyd hogan fach saith oed o Calcutta, a thra'r oeddwn yn Calcutta cefais y fraint o gyfarfod Shompa, oedd erbyn hynny yn 12 oed, a rhoi copi o’r llyfr iddi.

"Wrth ddefnyddio’r llyfr yma mewn ysgolion byddwn ar y diwedd yn dangos llun mwy diweddar o Shompa a dweud fy mod wedi ei chyfarfod.

"Dwi’n cofio hogan fach yn dweud wrtha i ar ddiwedd un sesiwn 'O! Nid stori ydi hi felly' – mae hynny wedi aros efo mi."

Nod penodol ymgyrch wythnos Cymorth Cristnogol eleni yw grymuso cymunedau yn Burundi i ddod o hyd i ffyrdd ymarferol a chynaliadwy o ddod allan o dlodi.

"Fe fyddai'n meddwl am hynny yn ystod fy nheithiau," ychwanegodd Llinos, "ac am wledydd eraill wrth i mi barhau i gerdded rhai o lwybrau prydferthaf Cymru."

Pynciau Cysylltiedig